Land Rover a charafan yr Archif Sain, 1961.

Land Rover a charafan yr Archif Sain, 1961.

Roy Saer, gyda Land Rover a charafan yr Amgueddfa ar daith gwaith maes yn Llanbedrog, sir Gaernarfon, Gorffennaf 1964.

Roy Saer, gyda Land Rover a charafan yr Amgueddfa ar daith gwaith maes yn Llanbedrog, sir Gaernarfon, Gorffennaf 1964.

Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru (1962) oddi wrth Evan Evans (Gwytherin, Abergele) yn cynnwys nodiadau amrywiol ar blwyf Llansannan.

Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru (1962) oddi wrth Evan Evans (Gwytherin, Abergele) yn cynnwys nodiadau amrywiol ar blwyf Llansannan.

S. Minwel Tibbott gyda’i pheiriant recordio yn Field Terrace, Pentyrch, 1970.

S. Minwel Tibbott gyda’i pheiriant recordio yn Field Terrace, Pentyrch, 1970.

Pan agorodd Amgueddfa Werin Cymru ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar Orffennaf 1af 1948, dyma oedd amgueddfa awyr agored genedlaethol gyntaf y Deyrnas Unedig. Pennaeth yr Amgueddfa ar y pryd oedd Dr Iorwerth C. Peate. O’r cychwyn cyntaf, o dan ei arweinyddiaeth arloesol, bu Amgueddfa Werin Cymru ar flaen y gâd yn cofnodi, yn casglu, ac yn astudio bywydau dyddiol pobl Cymru:

 

“[Bydd Sain Ffagan] yn ddarlun byw o’r gorffennol, yn ddrych o elfennau ein Cymreictod presennol, ac yn ysbrydoliaeth i ddyfodol ein gwlad.”

(Iorwerth C. Peate, 1948).

 

Dechrau Casglu

Yn y 1940au, â’r wlad yn profi cyfnod o newidiadau cymdeithasol a datblygiadau nas gwelwyd eu math o’r blaen, dechreuodd yr Amgueddfa ar brosiect casglu gwybodaeth er mwyn creu darlun byw o fywydau trigolion Cymru. O’r cyfnod hwn hyd at yr 1980au, dosbarthwyd holiaduron i unigolion mewn cymunedau dros y wlad yn y gobaith o ddefnyddio’r wybodaeth leol oedd ganddynt i lywio gwaith casglu’r Amgueddfa yn y dyfodol. Mae Archif Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru bellach yn gartref i’r holiaduron hyn, a’r atgofion rhwng eu cloriau yn ffenestr amhrisiadwy i’r gorffennol.

Sefydlu Archif Sain

Ers y dechrau cyntaf, bu recordio siaradwyr ar bob agwedd o fywyd gwerin yn rhan bwysig o waith yr Amgueddfa. Dechreuwyd casglu yn y maes yn niwedd y 1950au, gan roi'r pwyslais ar yr ardaloedd hynny lle'r oedd yr iaith a'r bywyd traddodiadol fwyaf mewn perygl. Sefydlwyd yr Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd dan arweiniad yr ysgolhaig a’r tafodieithegydd Vincent H. Phillips, ac yn 1958 cafwyd apêl radio gan G. J. Williams, Athro Cymraeg Coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn gofyn am roddion i ariannu’r gwaith hollbwysig hwn. Yn dilyn yr apêl, llwyddwyd i brynu peiriant recordio newydd sbon (yr EMI TR51) ac ymhen tipyn Land Rover ar gyfer y gwaith maes, a hyd yn oed carafan fel lloches i’r ymchwilwyr dros nos. Aeth saer yr Amgueddfa ati i wneud blychau yng nghefn y Land Rover i ddal y peiriant recordio, a rhaid hefyd oedd i’r cerbyd gario dau fatri asid, teclyn a elwid yn “vibroverter”(trawsnewidydd AC/DC) a thua 300 i 400 llath o gebl rhag ofn na fyddai trydan ar gael yn rhwydd wedi cyrraedd cartrefi’r siaradwyr. Roedd casglu tystiolaeth lafar ar y pryd yn waith hanfodol i gofnodi ffordd o fyw a oedd yn prysur ddiflannu ac wrth i amser fynd yn ei flaen, penodwyd tîm o staff, pob un â’i frwdfrydedd a’i arbenigedd dihafal ei hun, i deithio ledled Cymru yn holi ac yn recordio pobl yn trafod pob agwedd ar eu bywydau.

Pynciau

Ymysg y pynciau a drafodwyd yn y dyddiau cynnar ceid sôn am amaethyddiaeth, crefftau a geirfâu crefft, gwaith tŷ, bwydydd traddodiadol, meddyginiaethau gwerin, chwaraeon, storïau gwerin, canu gwerin, arferion tymhorol, arferion marw a chladdu a charu a phriodi, diwydiannau, tafodieithoedd y Gymraeg a diddordebau hamdden.

Siaradwyr

Recordiwyd dros bum mil a hanner o siaradwyr dros y blynyddoedd o Gaergybi i Gasnewydd, ac o Dyddewi i Dreffynnon, gan ddiogelu gwybodaeth heb ei hail ar gyfer y dyfodol. I’r ystadegwyr yn eich plith ceir 798 siaradwr â’r cyfenw Jones yn yr archif, 415 Williams, 375 Davies, 297 Evans, 246 Thomas a 224 Roberts. Yr enw cyntaf mwyaf poblogaidd ymysg y dynion yw John (272 siaradwr) ac ymysg y merched ceir 144 Mary a 138 Margaret.

Ffilm a Ffotograffau

Yn ogytal â recordiadau sain, recordiwyd cyfres o ffilmiau 16mm gan aelodau o staff curadurol yr Amgueddfa. Ffilmiau mud lliw yw’r rhan fwyaf ohonynt yn dangos hen ddulliau o amaethu, o baratoi a choginio bwydydd, ac o weithio crefftau traddodiadol.

Mae'r Archif Ffotograffiaeth yn cynnwys tua 250,000 o negyddion a phrintiau, a thua 15,000 o dafluniau. Ceir hefyd gyfoeth o luniau llawer hŷn a gaffaeliwyd yn rhoddion, neu a gopïwyd o luniau gwreiddiol a fenthyciwyd i'r Amgueddfa i'r perwyl hwn.

Apêl o’r Newydd: Casglu COVID-19

Gyda newidiadau mawr eto yn effeithio ar ein bywydau pob dydd, mae Amgueddfa Cymru yn lawnsio apêl gyhoeddus o’r newydd er mwyn casglu gwybodaeth ac atgofion trigolion Cymru am eu profiadau yn ystod cyfnod pandemig COVID-19. Gyda holiaduron papur, efallai erbyn hyn, yn perthyn i’r gorffennol a’r Land Rover a’r carafan wedi teithio eu taith olaf, rydym wedi lawnsio holiadur digidol torfol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion, i gymunedau ac i sefydliadau ar draws Cymru i gofnodi eu profiadau am fyw o dan y cyfyngiadau presennol. Ein nod yw creu cofnod hollbwysig o’r cyfnod trawsnewidiol hwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Casglu Covid: Cymru 2020

Gadael sylw