Casglu hanesion LGBTQ+ yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mark Etheridge

Mae Casgliad LGBTQ+ Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnwys gwrthrychau, dogfennau, ffotograffau a hanesion llafar sy'n ymdrin â meysydd fel digwyddiadau Pride a gweithredaeth, ynghyd ag eitemau sy'n cynrychioli bywydau bob dydd pobl LGBTQ+.

Digwyddiadau Pride

Bob blwyddyn fel arfer, mae yna amryw o ddigwyddiadau Pride bychain, a mwy o faint, yn cael eu cynnal ledled Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn fel arfer yn cynnwys gorymdaith, cerddoriaeth a digwyddiadau eraill sy'n dathlu’r gymuned LGBTQ a’i gwneud yn weledol, gyda phobl o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i gymryd rhan. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi canolbwyntio ar gasglu yn y maes hwn gan fod digwyddiadau Pride ledled Cymru wedi tyfu’n ddiweddar. Ymhlith y rhain roedd Pride Llanilltud Fawr (digwyddiad Pride cyntaf Bro Morgannwg) a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018; Digwyddiad Pride BAME cyntaf Cymru, a gynhaliwyd ar 19 Awst 2019; a digwyddiad Pride cyntaf y Barri, a gynhaliwyd ar 21 Medi 2019.

Taflen ar gyfer digwyddiad Pride Llanilltud Fawr

Taflen ar gyfer digwyddiad Pride Llanilltud Fawr, sef digwyddiad Pride cyntaf Bro Morgannwg, a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Roedd digwyddiadau Pride yn ystod 2020 yn wahanol iawn oherwydd COVID-19. Cafodd rhai eu canslo, tra bod llawer o rai eraill wedi’u cynnal fel digwyddiadau Pride rhithwir. Roedd y rhain yn cynnwys Abberation Pride ar gyfer cymuned LGBTQ canolbarth Cymru, a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf; digwyddiad Pride rhithwir Cymru gyfan a gynhaliwyd ar 24 a 25 Gorffennaf (lle cyfrannodd grwpiau cymunedol ac unigolion o bob cwr o Gymru); a cynhaliodd Glitter Cymru ddigwyddiad Pride rhithwir ar 22 Awst. Yn lle’r digwyddiad Pride mwyaf yng Nghymru, sef Pride Cymru – sydd fel arfer yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd dros benwythnos Gŵyl y Banc ar ddiwedd mis Awst – cynhaliwyd Wythnos Fawr Rithwir rhwng 24 a 30 Awst, lle roedd cyfranogiad yr Amgueddfa yn cynnwys Taith Rithwir Queer o’r casgliadau Celf a Hanes, ac Archaeoleg.

Taflen ar gyfer yr hyn a fyddai wedi bod yn ddigwyddiad Pride cyntaf Powys

Taflen ar gyfer yr hyn a fyddai wedi bod yn ddigwyddiad Pride cyntaf Powys. Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu ar gyfer 27 Mehefin 2020 ond cafodd ei ganslo oherwydd y pandemig.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Golygai’r symud i gynnal digwyddiadau Pride rhithwir yn 2020 ein bod ni wedi gorfod addasu ein dulliau casglu. Gan mai prin oedd y gwrthrychau ffisegol oedd ar gael i’w casglu, gorfu i ni newid i ddigidol, gan gasglu rhai o’r fideos a’r deunydd marchnata digidol ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Gweithiais gydag LGBTQymru o’r dechrau’n deg i wneud yn siŵr bod y rhaglen gyflawn o ddigwyddiad cyntaf Pride Rhithwir Cymru Gyfan yn cael ei gasglu, ac erbyn hyn mae wedi’i chadw yn yr archif yn Sain Ffagan fel cofnod parhaol. Mae’r digwyddiadau Pride rhithwir hyn yn dangos sut y gwnaeth cymuned LGBTQ Cymru ymateb ac addasu i’r argyfwng COVID-19.

Taflen ddigidol ar gyfer digwyddiad Pride rhithwir Glitter Cymru

Taflen ddigidol ar gyfer digwyddiad Pride rhithwir Glitter Cymru.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Protestiadau a'r Gwrthdystiadau

Mae cydraddoldeb mewn meysydd fel priodas rhwng cyplau o’r un rhyw yn rhywbeth y brwydrodd y gymuned LGBTQ a’u cyfeillion yn gryf amdano. Golygai hynny unigolion a grwpiau yn dod ynghyd i brotestio dros hawliau cyfartal, mynd i’r afael â gwahaniaethu, a chyflawni amcanion eraill oedd ganddynt yn gyffredin. Mae gan Sain Ffagan rai gwrthrychau pwysig sy'n cynrychioli rhai o'r protestiadau a'r gwrthdystiadau hyn. Un enghraifft yw'r faner hon, a wnaed tua’r flwyddyn 2000 ac a gariwyd yn yr orymdaith yn Gay Pride yn Llundain gan y Rhwydwaith Lesbiaid Hŷn (Cymru). Sefydlwyd y grŵp hwn ym 1993 i roi cyfleoedd i lesbiaid hŷn oedd yn gwrthwynebu gwahaniaethu, ac roedd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr gyda'r nod o annog balchder a hyder yn ei aelodau.

Baner y Rhwydwaith Lesbiaid Hŷn (Cymru) a wnaed tua 2000

Baner y Rhwydwaith Lesbiaid Hŷn (Cymru) a wnaed tua 2000.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Glitter Cymru

Sefydlwyd Glitter Cymru yn 2016 fel grŵp cymdeithasol a chymorth ar gyfer pobl LGBTQ o leiafrifoedd ethnig sy'n byw yng Nghymru. Cafodd eu baner gyntaf ei gwneud yn 2018 a’i chario ar orymdeithiau Pride i amlygu gwelededd pobl LGBTQ o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Fe'i defnyddiwyd hefyd yn nigwyddiad Pride BAME cyntaf Cymru a gynhaliwyd ar 10 Awst 2019 yng Nghanolfan Gymunedol Cathays, Caerdydd, yn ogystal â chael ei gosod ar y drws yn ystod cyfarfodydd Glitter.

Baner Glitter Cymru a gafodd ei gwneud yn 2018

Baner Glitter Cymru a gafodd ei gwneud yn 2018.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Adran 28

Cafodd Adran 28 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol ei gwneud yn ddeddf gwlad ym mis Mai 1988, i wahardd hyrwyddo cyfunrywioldeb gan awdurdodau lleol, a gwahardd ysgolion rhag addysgu bod ‘cyfunrywioldeb yn dderbyniol fel perthynas deuluol ffug.’ Dyma oedd geiriau’r Prif Weinidog, Margaret Thatcher, ar y pryd: "Children who need to be taught to respect traditional moral values are being taught that they have an inalienable right to be gay”. Yr hyn wnaeth arwain yn rhannol at y gyfraith oedd cwynion am y llyfr 'Jenny Lives with Eric and Martin', sef llyfr plant gan yr awdur Susanne Bösche a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg ym 1983 gan Gay Men's Press. Nod yr awdur oedd rhoi gwybodaeth i blant am wahanol fathau o berthnasoedd teuluol, ond pan ddaethpwyd o hyd iddo mewn llyfrgell gyhoeddus ym 1986 cafodd lawer o sylw gan rai o gyfryngau'r DU.

Mae’r llyfr hwn o 1988 yn gwneud hwyl am ben y stŵr a achoswyd gan y llyfr gwreiddiol

Mae’r llyfr hwn o 1988 yn gwneud hwyl am ben y stŵr a achoswyd gan y llyfr gwreiddiol. O gasgliad o ddeunydd gweithredydd lesbiaidd a roddwyd gan Sheryl Checuti o Gaerdydd.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Achosodd Adran 28 nifer fawr o brotestiadau gan ymgyrchwyr oedd yn dadlau bod y Ddeddf yn gwahaniaethu yn erbyn pobl gyfunrhywiol a'i bod yn anoddefgar ac yn anghyfiawn. Diddymwyd y gyfraith yn y pen draw yn 2000 yn yr Alban, ac yn 2003 yng ngweddill y DU. Yng Nghymru, bu nifer o brotestiadau ledled y wlad. Ar un orymdaith brotest yn Aberystwyth roedd aelodau o CYLCH (Cymdeithas Lesbiaid a Hoywon Cymraeg eu Hiaith).

Baner a ddefnyddiwyd gan CYLCH i brotestio yn erbyn Adran 28 mewn gorymdaith yn Aberystwyth

Baner a ddefnyddiwyd gan CYLCH i brotestio yn erbyn Adran 28 mewn gorymdaith yn Aberystwyth.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Bathodyn a wisgwyd yn ystod yr ymgyrch yn erbyn Adran 28

Bathodyn a wisgwyd yn ystod yr ymgyrch yn erbyn Adran 28.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Mae ymgyrchoedd dros hawliau cyfartal yn bendant yn dal i fynd rhagddynt. Yn y gorffennol, roedd cyfyngiadau a osodwyd gan y Pwyllgor Diogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SABTO, sef pwyllgor ymgynghorol y DU ar y mater hwn) yn atal dynion hoyw a deurywiol rhag rhoi gwaed. Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu, cafwyd newyddion da ar 14 Rhagfyr 2020, pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r gwaharddiad, a rhai cyfyngiadau yn cael eu codi – cam mawr tuag at gydraddoldeb llawn yn y maes hwn.

Poster ar gyfer ymgyrch gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn erbyn gwahaniaethu wrth roi gwaed

Poster ar gyfer ymgyrch gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn erbyn gwahaniaethu wrth roi gwaed.
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Oni bai bod gwrthrychau a'u straeon cysylltiedig yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ni fydd lleoedd fel Sain Ffagan yn gallu adrodd hanes llawn y gymuned LGBTQ yng Nghymru. Cysylltwch â mi os oes gennych chi unrhyw wrthrychau yr hoffech eu rhoi i helpu i adeiladu'r casgliad LGBTQ+ cenedlaethol yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Yn olaf, fe allwch chi chwilio am wrthrychau o'r casgliad yn Sain Ffagan a’u gweld ar gatalog Casgliadau Ar-lein yr Amgueddfa

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan y Senedd fel rhan o Fis Hanes LGBT+ 2021. Mae’n trafod rhai o’r gwrthrychau yng nghasgliad Sain Ffagan a gasglwyd o ddigwyddiadau Pride amrywiol, a deunydd ymgyrchu a wnaed ac a gafodd ei wisgo i brotestio yn erbyn Adran 28.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.