Syria

Ymddangosodd Syria fel gwlad annibynnol ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. O 1516 tan 1918, rhan o’r Ymerodraeth Otomanaidd oedd y diriogaeth lle mae Syria nawr. Ym 1919 daeth y wlad o dan reolaeth drefedigaethol Ffrainc fel rhan o’i Mandad ar gyfer Syria a Libanus. Parhaodd hynny tan i Syria gael annibyniaeth ym 1946. In 1958 fe unodd Syria gyda’r Aifft am gyfnod byr, cyn creu Gweriniaeth Arabaidd Syria ym 1961. Ers 1963, Plaid Sosialaidd Arabaidd Ba’ath sydd wedi bod mewn grym.
Cyn y rhyfel cartref, roedd Syria yn gartref i 22 miliwn o bobl o amrywiol gefndiroedd. Mae tua 65% o Syriaid yn Arabiaid Sunni. Mae Arabiaid Alawi Arabs a Mwslemiaid eraill yn ffurfio 13% o’r boblogaeth. Mae 10% yn Gristnogion Arabaidd, y mwyafrif ohonynt yn Uniongred neu’n Gatholigion Dwyreiniol, ond hefyd yn eu plith mae Cristnogion Assyriaidd, Caldeaidd ac Armenaidd, yn cynnwys cymuned fach o siaradwyr Aramaeg. Mae Cwrdiaid Swniaidd yn cyfrif am 10% ychwanegol. Drwsiaid, Ismailiaid, Shiaid a Thwrcmeniaid yw’r gweddill.

Tachwedd 1970
Penodir Hafez al-Assad yn arlywydd Gweriniaeth Arabaidd Syria. Un o’r lleiafrif Alawaidd ydyw, ac mae’n dibynnu arnynt i gefnogi ei lywodraeth. Yn ara deg, daw’r Alawiaid i reoli’r fyddin a’r lluoedd diogelwch mewnol yn llwyr.
1973
Mae cyfansoddiad newydd yn caniatau i’r arlywydd ddefnyddio’r lluoedd arfog, y Blaid Ba’ath a’r lluoedd diogelwch mewnol i gryfhau ei afael dros y wlad.
1980 ac 1982
Ar ôl y Chwyldro Islamaidd yn Iran, dyma’r Frawdoliaeth Fwslemaidd yn dechrau gwrthryfela yn Aleppo, Homs a Hama. Chwyrn a threisiol yw ymateb y llywodraeth, a chaiff degau o filoedd o bobl gyffredin eu lladd.
1982
Cyflafan Hama. Dyma’r Frawdoliaeth Fwslemaidd yn lansio gwrthryfel yn erbyn ideoleg seciwlar cyfundrefn Assad. Adwaith Assad yw bomio a dinistrio rhan helaeth o’r Hen Ddinas a lladd hyd at 20,000 o bobl.
1990au
Mae Al-Assad yn ychwanegu cymal at y cyfansoddiad yn datgan ei fod yn rhaid i’r Arlywydd fod yn Fwslem. Nid yw hyn yn tawelu ofnau’r Frawdoliaeth Fwslemaidd.
Mehefin 2000
Dyma’r Arlywydd Assad yn marw a daw ei fab Bashar yn olynydd iddo.
Medi 2001
Mae lluoedd llywodraeth Bashar al-Assad’s yn arestio Aelodau Seneddol ac ymgyrchwyr dros ddiwygio’r gyfundrefn.
Rhagfyr 2010
Dechrau’r Gwanwyn Arabaidd yn Tiwnisia, ac yna yn 2011 yn yr Aifft, Iemen, Libia, Syria a Bahrain.
Mawrth 2011
Gwelir lluoedd Bashar al-Assad yn ymosod ar brotestwyr sy’n galw am ryddhau carcharorion gwleidyddol yn ninas ddeheuol Daraa. Mae’r protestio yn dwyshau a’r llywodraeth yn ymateb trwy garcharu, arteithio a lladd protestwyr.
Mai 2011
Anfonir tanciau’r Fyddin i mewn i Deraa, Banyas, Homs a maestrefi Damascus i atal protestio yn erbyn y llywodraeth.
Gorffennaf 2011
Byddin Rhydd Syria (FSA) yw’r grŵp sylweddol cyntaf o wrthryfelwyr i ymladd yn erbyn y llywodraeth. Gwrthgilwyr o luoedd arfog Syria yw’r mwyafrif ohonynt. Llwyddant i gipio arfau a rhai canolfannau milwrol a throi gwrthryfel yn rhyfel gwirioneddol.
2012
Dechreua ffoaduriaid adael Syria, yn bennaf i Libanus, Gwlad Iorddonen, Irac a Thwrci. Erbyn Awst, gwelir y ffoaduriaid cyntaf yn cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd ar longau.
Awst 2013
Ffyrnig yw ymateb Assad i’w wrthwynebwyr. Mae’n ymosod gydag arfau cemegol ar ardal amaethyddol Ghouta ger Damascus. Lleddir tua 1,400 people o bobl. Wrth i’r llywodraeth fomio, newynu ac arteithio ei dinasyddion, dyma argyfwng dyngarol yn ymffurfio.
Mehefin 2014
Datganiad gan Wladwriaeth Islamaidd Irac (ISIS) a grwpiau milwriaethus yn Syria mai gwladwriaeth Islamaidd yw’r ardal sy’n ymestyn o Aleppo i dalaith Diyala yn nwyrain Irac.
Medi 2014
Dechreua’r Unol Daleithiau a phum gwlad Arabaidd fomio y Wladwriaeth Islamaidd o gwmpas Aleppa a Raqqa o’r awyr.
Ionawr 2015
Llwydda lluoedd Cwrdaidd wthio lluoedd ISIS o Kobane ar y ffin â Thwrci ar ôl pedwar mis o frwydro.
Chwefror 2015
Erbyn hyn mae dros 220,000 o bobl wedi colli eu bywydau a dros bedair gwaith y nifer hwn wedi’u hanafu. Mae dros 150,000 yng ngharchardai Assad ac 11,000 wedi eu lladd yno.
Mai 2015
Mae ISIS yn copio dinas hynafol Palmyra yng nghanolbarth Syria ac yn dinistrio henebion oedd yn rhan o safle cyn-Islamaidd o bwys i dreftadaeth y byd.
Gorffennaf 2015
Erbyn hyn mae tua 4 miliwn o Syriaid wedi ffoi o’r wlad a 7.6 miliwn arall yn ddigartref yn eu gwlad eu hunain.
Medi 2015
Dyma Rwsia yn lansio cyrch awyr yn Syria am y tro cyntaf.
Mawrth 2016
Gyda chymorth awyrlu Rwsia, llwydda llywodraeth Syri i adennill Palmyra oddi wrth ISIS, ond erbyn Rhagfyr cânt eu gyrru allan unwaith eto.
Awst 2016
Mae lluoedd arfog Twrci yn croesi i Syria i helpu gyrru cefnogwyr ISIS a gwrthryfelwyr Cwrdaidd o ran o’r ffin rhwng y ddwy wlad.
Rhagfyr 2016
Llwydda lluoedd y Llywodraeth, gyda chefnogaeth awyrlu Rwsia a milisia o dan nawdd Iran, i adennill Aleppo. Fe gyll y gwrthryfelwyr eu cadarnle dinesig olaf o unrhyw sylwedd.
Ebrill 2017
Ar orchymyn Donald Trump, dyma’r Unol Daleithiau yn ymosod gyda thaflegrau ar faes awyr yn Syria. Credir mai o’r maes awyr hwn yr ymosododd awyrennau llywodraeth Syria yn gemegol ar dref Khan Sheikoun, a gipiwyd gan wrthryfelwyr.
Hydref, Tachwedd 2017
Gyrrir ISIS allan o Raqqa, prif gadarnle’r grŵp yn Syria, a hefyd Deir al-Zour.
Ionawr 2018
Ymosoda Twrci ar ogledd Syria er mwyn dymchwel rheolaeth gwrthryfelwyr Cwrdaidd ar yr ardal o gwmpas Afrin.
Ebrill 2018
Wedi clywed am ymosodiadau cemegol newydd ar Douma, prif dre Dwyrain Ghouta, dyma’r Unol Daleithiau, Prydain a Ffrainc yn taro’n ôl trwy ymosod ar dargedau Syriaidd.
Ionawr - Ebrill 2018
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae dros 920,000 o bobl yn Syria wedi gorfod symud o’u cartrefi.
Gorffennaf 2018
Llwydda byddin Syria i ailafael yn y rhan fwyaf o dde Syria, hyd at y ffin â Gwlad Iorddonen a thiriogaeth ym meddiant Israel.
Medi - Rhagfyr 2018
Dyma luoedd yr SDF o dan arweiniad y Cwrdiaid yn lansio ymosodiad sy’n lleihau tiriogaeth ISIS i ardal fechan ar y ffin ag Irac.
Hydref 2019
Penderfyna’r Unol Daleithiau dynnu eu lluoedd allan o ogledd Syria, ac annog Twrci i ymosod ar gynghreiriaid Cwrdaidd yr UD yn yr ardal. Lleddir Abu Bakr al-Baghdadi, un o arweinyddion ISIS, mewn cyrch awyr gan yr UD ar ei loches yn nhalaith Idlib.
Tachwedd 2019 – y presennol
Amcangyfrif yr UNHCR yn 2017 oedd bod 6.2 miliwn o ffoaduriaid mewnol yn Syria, ac mae wedi cynyddu ers hynny. Amcangyfrifwyd ym Mehefin 2019 fod 6,253,784 o bobl wedi gadael Syria. I lawer, mae aros mewn gwersyllfeydd yng ngwledydd Twrci, Iorddonen a Libanus yn gam anorfod wrth iddynt chwilio am gartre diogel yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a mannau eraill ar draws y byd.