Paladr croes ym mynwent eglwys Sant Illtud gyda John Romilly Allen, Llanilltud Fawr

Paladr croes ym mynwent eglwys Sant Illtud gyda John Romilly Allen, Llanilltud Fawr
Mae'r llun hwn yn dangos ochr paladr croes o'r 10fed ganrif. Fe'i gelwir hefyd yn Groes Samson neu garreg Illtud ac ar hyn o bryd mae yng Nghapel Galilea yn Eglwys Sant Illtud. Mae gan Amgueddfa Cymru gast o'r garreg yn ei chasgliad. Roedd John Romilly Allen (1847-1907) yn archaeolegydd a oedd yn hanu o deulu o dirfeddiannwyr Cymreig a oedd yn nodedig mewn cylchoedd Eglwysig a Chyfreithiol. Erbyn 1877 roedd yn aelod o bwyllgor cyffredinol Cymdeithas Archaeolegol Cambrian. Cyflwynodd gerrig nadd i'r cyhoedd drwy gymharu Celfyddyd Geltaidd yng Nghymru ac Iwerddon. Cyhoeddodd bapurau pwysig ar gerrig ag arysgrifau arnynt a cherfluniau cynnar Cymru gan ddatblygu eu hastudiaeth yn gyffredinol a rhoi cerfluniau addurnol Cymru ar lwyfan rhyngwladol. Nash-Williams ECMW (1950) rhif 222 / Redknap a Lewis (2007) G66

Object Information:

Original Creator (External): Sir Thomas Mansel Franklen
Exact Place Name: Llanilltud Fawr
Accession Number: 25.486