Geirfa

Croeso i Eirfa Cyfieithwyr Amgueddfa Cymru. Dyma gasgliad o dermau a geiriau yr ydym wedi'u casglu neu eu bathu, rhai gyda chymorth arbenigwyr. Yn eu plith mae elfennau o arddull tŷ'r Amgueddfa, teitlau digwyddiadau ac arddangosfeydd a manylion ein saith amgueddfa. Ein gobaith yw y bydd o ddefnydd i gyfieithwyr eraill, cydweithwyr ac unrhyw un arall sy'n gweithio yn y maes neu'n drafftio testun.

Rydym yn ychwanegu at yr eirfa'n gyson, felly os hoffech awgrymu term neu gynnig sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â'r Cyfieithydd ar (029) 2057 3318 neu e-bostio geirfa@amgueddfacymru.ac.uk.

Mae rhwydd hynt i chi chwilio yn y Gymraeg neu'r Saesneg, ond rydym yn argymell i chi chwilio un gair neu ran o derm yn hytrach na'r cyfan.