Datganiad Diogelu Data

(mewn perthynas â'r ymgynghoriad Gweddnewid Dyfodol Plant — Chwefror 2012)

Deddf Diogelu Data, 1998

Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, bydd Amgueddfa Cymru yn gwahodd unigolion a sefydliadau i ymateb i'n dogfen strategaeth. Rydym yn bwriadu casglu'r wybodaeth ganlynol: enw'r sefydliad neu'r unigolyn, y wlad/sir a manylion cyswllt (cyfeiriad ebost neu post). Bydd y data cyswllt yn galluogi Amgueddfa Cymru i gysylltu â'r sefydliad neu unigolyn i gadarnhau ei sylwadau neu ofyn am ganiatâd i gyhoeddi'r sylwadau.

Caiff y cyfraniadau eu dadansoddi a'u dehongli gan Amgueddfa Cymru. Rydym yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth gyfanredol o ganlyniad i'r broses ymgynghori; ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw sylwadau na gwybodaeth bersonol heb ofyn am ganiatâd yr ymatebydd.

Caiff y data personol a gesglir ei brosesu gan Amgueddfa Cymru ac ni fydd ar gael i drydydd parti.

Dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • Datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

    Am ein bod yn awdurdod cyhoeddus gall yr holl ddeunydd ysgrifenedig yn ein meddiant, gan gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud ag ymgynghoriadau cyhoeddus, gael ei ystyried ar gyfer ei ddatgelu yn dilyn cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 oni bai fod yr wybodaeth yn eithriedig.

  • Diogelwch ac Ebyst

    Dylech gofio nad yw'r ebyst yr anfonwch atom, nac ebyst y byddwn yn eu hanfon atoch, yn ddiogel, am y gellid eu hatal.

Caiff yr wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ei phrosesu yn unol ag wyth egwyddor Diogelu Data y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Os hoffech gael mynediad at eich ymateb, ei newid neu ei ddileu anfonwch neges at judith.ingram@amgueddfacymru.ac.uk

Os ydych o'r farn nad yw'ch gwybodaeth wedi cael ei phrosesu yn unol â'r ddeddfwriaeth, dylech gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH.