Sut i Archebu - Amgueddfa Wlân Cymru

Dau blant yn dal pentwr o wlan yn yr awyr.

Archebu Lle

Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu dau wythnos ymlaen llaw.

Ffoniwch 0300 111 2 333 i archebu lle.

Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o’ch archeb wedyn. Cofiwch ddarllen hwn yn ofalus. 

Dim ond drwy rif archebu Amgueddfa Wlân Cymru y gellir gwneud archebion.

Cofiwch fod angen yr wybodaeth ganlynol wrth archebu’ch lle

  • Enw’ch ysgol / sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r athro / arweinydd y grŵp
  • Nifer y myfyrwyr
  • Ystod oedran
  • Oes gan unrhyw ddisgyblion anghenion ychwanegol y dylem wybod amdanynt?
  • Nifer y staff
  • Nifer y disgyblion ag anghenion ychwanegol

Oriau agor

Dydd Mawrth–Dydd Sadwrn, 10am–5pm.

Iechyd a diogelwch

Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau’ch asesiad risg ar gael

yma [PDF]

Rhaid goruchwylio grwpiau 16 oed neu iau drwy’r amser.

Cymarebau oedolyn/plentyn:

  • 5-8 oed – 1 oedolyn : 6 o blant
  • 8-11 oed – 1 oedolyn : 10/15 o blant
  • 11+ oed – 1 oedolyn : 15/20 o blant

Yr Adran Addysg a Sgiliau sydd wedi awgrymu’r cymarebau hyn. Dylai arweinwyr grwpiau asesu’r risgiau ac ystyried lefel oruchwylio ddiogel ar gyfer eu grwpiau nhw.

Ymweld

Oherwydd gwaith adeiladu does dim lle parcio ar gyfer bysiau na choetsis. Os byddwch chi’n hwyr yn cyrraedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio'r Amgueddfa.

Os byddwch chi’n hwyr yn cyrraedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio'r Amgueddfa.

Cyfleusterau i ymwelwyr ag Anghenion Ychwanegol

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu gofynion ymwelwyr ag anghenion ychwanegol. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i wybod pa ddarpariaeth sy’n bosib.

Nam corfforol

  • Mae 3 lle parcio dynodedig i’r anabl yn y maes parcio, cyn croesi’r bont.
  • Mae llwybrau â phalmant gwastad, sy’n addas a hwylus i bawb, yn arwain o’r maes parcio i’r amgueddfa. Fodd bynnag, mae llwybr ar i lawr yn arwain o’r ffordd i fynedfa’r amgueddfa, a glaswellt rhwng y maes parcio ychwanegol a’r fynedfa.
  • Mae dwy gadair olwyn ar gael yn y siop ar gais. Cyntaf i’r felin piau hi, a does dim modd eu harchebu ymlaen llaw, er y byddwn yn ystyried unrhyw geisiadau o’r fath.
  • Mae seddi ar hyd a lled yr amgueddfa. Holwch unrhyw aelod o’r staff os ydych chi eisiau sedd mewn lleoliad arall.
  • Mae lifft i’r llawr cyntaf yn y prif adeilad.

Nam ar y clyw

  • Mae gan yr orielau a’r arddangosfeydd ddeunyddiau ysgrifenedig o safon dda i gyd-fynd â’r casgliadau.
  • Mae’r dehongliad gweledol o brif thema’r arddangosfa i’w weld yn glir.

Nam ar y golwg

  • Mae dehongliadau sain yn cyd-fynd â nifer o’r arddangosfeydd, a defnyddir sain cefndir i greu awyrgylch yn rhai o’r orielau.
  • Mae lefelau isel o olau mewn ambell oriel am resymau cadwriaethol, ond mae’r llwybrau cerdded a’r paneli testun wedi’u goleuo’n glir.

Anghenion Ychwanegol

  • Mae croeso i grwpiau ac unigolion ag anawsterau dysgu, ac mae gweithgareddau ar gael drwy archebu ymlaen llaw.

Cyfleusterau

  • Mae’r caffi a’r siop yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
  • Mae tai bach i bobl anabl ar gael gerllaw adeilad y brif dderbynfa ac yn y Ganolfan Adnoddau a Chasgliadau.
  • Mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn nhai bach dynion a menywod yn yr Amgueddfa, ac yn y tŷ bach i bobl anabl yn y bloc Addysg.

Cŵn

  • Mae croeso i gŵn cymorth ym mhob rhan o’r safle.
  • Gallwch ofyn am bowlenni dŵr o’r caffi.
  • Cofiwch fynd â’ch ci y tu allan i wneud ei fusnes. Holwch y staff.

 

Dillad addas

Bydd y rhan fwyaf o’ch ymweliad dan do. Er hynny, cofiwch ddod â dillad addas ar gyfer pob tywydd os ydych chi’n dilyn Llwybr y Pentref.

Ar ôl cyrraedd

Bydd staff yn barod i’ch croesawu wrth brif fynedfa’r Amgueddfa. Byddant yn cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn angen gwybod faint yn union o ymwelwyr sydd yn eich grŵp.

Bwyd a diod

Rhowch wybod i ni wrth archebu os hoffech ddod â chinio i'w fwyta mewn man dan do dynodedig yn yr Amgueddfa. Gallwch fwyta cinio yn yr ardd os yw’n braf. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Dim bwyta nac yfed yn yr Amgueddfa.

Tai bach

Mae tŷ bach â mynediad i bobl anabl yn yr Amgueddfa a’r Ystordy Ymchwil, ein bloc addysg. Mae tai bach ar wahân i ddynion a menywod yn yr Amgueddfa a’r bloc Addysg ac maen nhw’n addas i blant. Mae cyfleusterau newid babanod ar gael yn nhai bach dynion a menywod yr Amgueddfa, ac yn y tŷ bach i bobl anabl yn y bloc Addysg.

Map

Mae map ar gael o ddesg y dderbynfa.

Lle i gadw cotiau a bagiau


Rhowch wybod i staff wrth archebu os hoffech le i storio cotiau a bagiau.

Ffotograffiaeth

Mae croeso i ymwelwyr dynnu lluniau at ddibenion personol gydol yr ymweliad, ar ôl llofnodi ffurflen yn y dderbynfa.

Ffonau symudol

Peidiwch â defnyddio’ch ffôn symudol yn yr Orielau er cwrteisi i ymwelwyr eraill.

Siop yr Amgueddfa

Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach a llyfrau. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau nad oes mwy na 6 phlentyn yn y siop ar y tro.

Canllawiau’r Amgueddfa

Rhaid i blant a phobl ifanc dan 16 oed fod dan oruchwyliaeth drwy’r amser.

Dim ysmygu yn unrhyw un o’r adeiladau.

Ymweliadau rhagflas

Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.

Cymorth cyntaf ac anghenion meddygol

Os bydd angen Cymorth Cyntaf, cysylltwch ag un o gynorthwywyr neu hwyluswyr yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.

Dylai arweinwyr grŵp gysylltu â’r tîm Addysg os oes gan aelod o’r grŵp unrhyw anghenion meddygol penodol.

Tân

Os bydd tân, bydd larwm yn canu. Dylai’ch grŵp adael yr adeilad drwy ddilyn yr arwyddion i’r allanfa dân agosaf. Cewch gyfarwyddiadau gan aelod o’r staff.

Plant ar goll

Dywedwch wrth blant am roi gwybod i aelod o’r staff os ydyn nhw ar goll.

Polisi amddiffyn plant

Mae polisi amddiffyn plant yr Amgueddfa ar gael yma.