Uchafbwyntiau

Cewch eich cyfareddu gan stori diwydiant gwlân Cymru

Yn y gorffennol, y diwydiant gwlân oedd diwydiant pwysicaf a mwyaf cyffredin Cymru. Ar un adeg, roedd pentref pert Dre-fach Felindre ynghanol harddwch Dyffryn Teifi yn ganolfan lewyrchus i'r diwydiant gwlân ac yn cael ei alw'n 'Huddersfield Cymru'.

Yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd. Yno, gwnaed crysau a siolau, blancedi a charthenni, a sanau gwlân i ddynion a merched, a'u gwerthu i'r ardaloedd cyfagos - ac i bedwar ban byd..

Dilynwch y broses o Ddafad i Ddefnydd ac ymwelwch a'r adeiladau rhestredig y ffatri sydd wedi eu adnewyddwyd mewn ffordd sensitif a Peirianwaith Hanesyddol

Mae’r Sied Wehyddu yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd gyda’n crefftwyr yn cael hyfforddiant ar ddefnyddio’r gwyddiau hanesyddol sydd yn yr adeilad. Gobeithiwn ailagor y llwybr dyrchafedig yn y dyfodol agos i roi golwg unigryw ar decstilau sy'n cael eu cynhyrchu yn y sied wehyddu.

Ein Crefftwyr

Ddafad i Ddefnydd

Peirianwaith Hanesyddol

Caiff teuluoedd hwyl yn dilyn llwybr y 'Stori Wlanog', gan greu eu cyfarwyddiadau eu hunain i wneud a defnyddio brethyn a rhoi cynnig ar waith cardio, nyddu a gwnïo ar eu ffordd.

Mae staff cyfeillgar yr Amgueddfa bob amser wrth law i ddangos sut mae pethau'n gweithio ac i ateb cwestiynau.