Peirianwaith Hanesyddol

Mae’r Amgueddfa’n cynnwys amrywiaeth eang o beirianwaith hanesyddol a ddefnyddid ym melinau gwlân Cymru.

Defnyddir yr heislan trydan - y chwalwr neu’r cythraul - i ddatgymalu gwlân gyda’i ddrwm troi mawr â sbigynnau dur i agor y gwlân ar gyfer ei gribo.

Dyfeisiwyd y peiriant cribo sydd yn yr Amgueddfa dyfeisiwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r peiriant cribo’n cribo’r gwlân wedi iddo gael ei heislanu, gan baratoi’r ffibrau i’w nyddu.

Roedd gan Felinau Cambrian, Dre-fach Felindre bedwar peiriant cribo 20 metr o hyd ac yn pwyso 10 tunnell yr un. Roeddynt yn hanfodol ar gyfer masgynhyrchu gan fod gwlân wedi’i gribo’n sâl yn torri wrth ei nyddu, yn gwastraffu amser ac arian, ac yn gostwng safon yr edafedd a’r brethyn a wnaed ohono.

Roedd yr Olwyn Fawr sydd ar ddangos yn gyffredin erbyn y 1300au. Roedd angen sefyll i’w gweithredu, ac roeddynt yn gymharol rhad i’w prynu fel bod hyd yn oed teuluoedd tlawd yn gallu fforddio eu prynu. Yn achos y droedlath, neu Olwyn Ynys Môn, dyfais ddiweddarach a drutach, gallai’r nyddwr weithio wrth eistedd.

Mae un o fulod nyddu gwreiddiol Melinau Cambrian yn yr Amgueddfa heddiw. Fe’i defnyddiwyd i nyddu trwy gydol oes aur y busnes ac ymlaen i’r 1960au.

Cribo, nyddu, chwalu. Cenglwr a gwŷdd Dobcross. Erbyn diwedd eich ymweliad, fe fyddan nhw'n llawer mwy na geiriau!