Arddangosfa: Porthladdoedd Coll Cymru
Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen
Mae gan Gymru arfordir hir - bron yn 870 milltir o hyd. Arweiniodd ffermio a diwylliant at fasnachu, ac er bod llawer o nwyddau'n croesi Clawdd Offa, roedd y môr a'r afonydd yr un mor allweddol. Y canlyniad oedd nifer o borthladdoedd, ambell un mewn lle go annisgwyl. Mae'r arddangosfa hon yn tynnu sylw at rai o'r porthladdoedd coll hyn.