Digwyddiad: Helfa Nadolig
Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Helfa Nadolig
Dewch i ymuno yn hwyl yr ŵyl yn unrhyw un o’r Amgueddfeydd Cenedlaethol eleni, gyda Helfa Nadolig hwyliog!
Mae wyth cymeriad Nadoligaidd yn cuddio yn yr Amgueddfa. Allwch chi ddod o hyd i bob un, ac ateb y cwestiynau amdanyn nhw?
Beth fydda i’n gael?
- Byddwch chi’n cael taflen A4 fydd yn help i chi ddod o hyd i’r cymeriadau yn yr Amgueddfa.
- Ar ôl gorffen yr helfa, gallwch fynd â’r daflen adref i wneud y gweithgaredd sydd ar y cefn.
- Gallwch ddefnyddio’r URL i weld yr e-lyfryn sy’n llawn syniadau am grefftau a bwyd i’w gwneud gartref, cwisiau, a ffilmiau gan guraduron am y pethau Nadoligaidd sydd yn yr Amgueddfa.
Lle alla i gael y daflen?
-
Gallwch brynu’r daflen yn siop yr amgueddfa.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd angen archebu tocyn am ddim cyn ymweld. Edrychwch ar wefannau’r amgueddfeydd unigol i archebu a hefyd am fanylion agored dros y Nadolig. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.
- Bydd Amgueddfa Wlân Cymru yn agor pumb diwrnod yr wythnos – dydd Mawrth - dydd Sadwrn. Bydd yr Amgueddfa ar agor i gynnwys Gŵyl y Banc.
- Mae’r helfa yr un fath ym mhob un o’n safleoedd.
- Gweithgaredd yn yr amgueddfa yw hwn, gyda chynnwys ychwanegol ar-lein.
- Mae’r helfa yn ddwyieithog. Mae’r cynnwys ychwanegol yn ddwyieithog neu mae is-deitlau Cymraeg neu Saesneg iddo.
- Mae’r helfa yn addas i blant 4-10 oed; efallai bydd plant iau angen help.
- Codir pris fesul taflen; gallwch gwblhau un fel teulu neu brynu taflen unigol i bob person.
- Cofiwch ddod â phensel neu feiro gyda chi i gwblhau’r helfa.
- Mae rhai o’r cymeriadau wedi’u gwneud o ddeunyddiau ecogyfeillgar, a byddwn yn eu hail-ddefnyddio. Rydyn ni hefyd wedi rhoi gweithgaredd ar y daflen fel bod modd i chi ei ailddefnyddio. Os nad ydych chi eisiau gwneud y gweithgaredd, ailgylchwch eich taflen.
- Fel rhan o fesurau diogelwch Covid yr Amgueddfa, peidiwch â chyffwrdd y cymeriadau.
- Nifer cyfyngedig o daflenni ar gael.
- Bydd y rhai olaf ar werth awr cyn i’r Amgueddfa gau i roi amser i chi gwblhau’r helfa.
Ewch i’n siop ar-lein i chwilio drwy gannoedd o anrhegion unigryw i sicrhau fod y Nadolig yn fwy arbennig fyth.