Digwyddiadau

Digwyddiad: Haf o Hwyl - Hwyl Gyda Chlocsiau

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen
12, 18 a 26 Awst 2022, 11.00; 12.00; 13.00; 14.00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn
Dyma logo Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru, mae'r testun yn goch ar gefndir gwyn. Mae yma hefyd amlinelliad adeilad treftadol ar yr ochr chwith

Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru

Dyma Logo gyda'r geiriau yn nodi bod y prosiect wedi ei arianu gan Lywodraeth Cymru gyda testun du ar gefndir gwyn

Ymunwch â ni am sesiwn hwyliog gyda'r torrwr record a phencampwr byd clocsio, Tudur Phillips  fydd wrth law i ddysgu camau dawns clocsio hawdd i chi. Bydd gemau a gweithgareddau hwyliog yn ogystal yn ystod y sesiynau yma!  Does dim angen archebu lle, dim ond troi i fyny ar y diwrnod a chymryd rhan.

 

Mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu trefnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o'r fenter Haf o Hwyl, a ariennir gan Lywodraeth Cymru

 

Digwyddiadau