Digwyddiadau

Arddangosfa Arbennig: Pencampwyr Gweuwaith

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen
13 Medi–3 Tachwedd 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Cyflwynwyd y siwmper i un o enwogion mwyaf WWE, Drew McIntyre, pan gyrhaeddodd ddinas Caerdydd cyn y digwyddiad ‘Clash at the Castle’.

Ar 3 Medi, 2022, cynhaliodd WWE ei ddigwyddiad stadiwm mawr cyntaf yn y DU ers 30 mlynedd yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

I ddathlu, daeth gweuwyr o bob rhan o Gaerdydd, gan gynnwys gweithdy gwaith llaw Twin Made, ynghyd i greu siwmper. Nawr gallwch chi weld y siwmper unwaith eto cyn iddo fynd i ddwylo preifat.

Mae’r siwmper gwau unigryw hon wedi’i gwneud o wlân defaid o ffynonellau lleol. Mae'n asio motiffau Cymreig enwog ag elfennau eiconig WWE gan gynnwys logo “Clash at the Castle”, sydd wedi'i wnio'n gariadus i'r cefn. Fy gymerodd hi 8 person 140 awr i’w greu. 

Cyflwynwyd y siwmper i un o enwogion mwyaf WWE, Drew McIntyre, pan gyrhaeddodd ddinas Caerdydd cyn y digwyddiad ‘WWE Clash at the Castle’.

Digwyddiadau