Digwyddiad:Cwrdd â Johnny Lewis – Teithiau mewn Gwisg a Chrefftau!

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Camwch yn ôl mewn amser a chwrdd â Johnny Lewis, perchennog go iawn Ffatri Cambrian, sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Wlân Cymru, o’r 1920au hyd at y 1950au.

Ymunwch â ni am ddiwrnod arbennig o hanes, adrodd straeon a hwyl ymarferol wrth i Johnny ddod yn fyw drwy actor mewn gwisg -Tudur Phillips. Bu disgyblion Ysgol Penboyr yn gweithio gyda’r awdures Anni Llŷn ac aelodau o Stori Fawr Drefach Felindre i ddarganfod stori Johnny drwy ymchwil, gan helpu i ddod â’r cymeriad yn fyw. 

Clywch straeon difyr am fywyd y felin a darganfyddwch y rôl bwysig a chwaraeodd Ffatri Cambrian yn y gymuned leol. Cymerwch daith dywys gyda Johnny a darganfyddwch y daith o ddafad i ddefnydd. Wrth i chi grwydro’r Amgueddfa fe welwch ein peiriannau hanesyddol ar waith, yn union fel y byddent wedi bod yn oes aur y melinau.
 

Peidiwch ag anghofio galw heibio am grefftau creadigol gyda’n tîm amgueddfa a bod ymhlith y cyntaf i fwynhau ein Gofod Gwneud a Chreu wedi’i adnewyddu – wedi’i ddylunio ar gyfer dychymyg, creu a chreadigrwydd cymunedol.

Dwy Daith Tywys gan Johnny Lewis 

Cwrdd wrth y ddesg y dderbynfa

*Taith 1: 10.15yb

*Taith 2: 12.30yp

11.30am- Bydd Ysgol Penboyr yn perfformio yn Iard hir yr Amgueddfa. Cyflwyniad i bawb sydd wedi cymryd rhan ym mhrosiect ymchwil Johnny Lewis.

Gwybodaeth

31 Mawrth 2026, 10.00yb-2.00yp
Pris Am ddim (Am fwy o wybodaeth gweler amserlen y digwyddiad)
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw Heibio
Johnny Lewis 1
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau