Digwyddiad: Penwythnos Cwiltio Stribedi gyda Lesley Jenkins

Deuddydd o gwrs cwiltio a chlytwaith gyda Lesley, i ddysgu technegau fydd yn eich galluogi i gynhyrchu lliain cul cwiltiog o stribedi syml o ffabrig. Byddwn yn edrych ar dorri cylchdro ac ystofi â pheiriant, cyn troi’r stribedi yn flociau diddorol a chymhleth yr olwg ar gyfer eu cwiltio. Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer dechreuwyr hyderus. Bydd tri dyluniad i ddewis ohonynt – adar a choed glas, glan y môr mewn coch, neu Nadolig Sgandinafaidd mewn coch a hufen.
Darperir yr holl ddeunyddiau ar gyfer y cwilt, ac maent yn gynwysedig yn y pris. Bydd digon o le i bawb weithio a set o offer i bawb. Bydd digon o de, coffi a chacennau hefyd. Gallwch brynu cinio hyfryd o’r Amgueddfa, ac maent yn hapus i fodloni unrhyw anghenion dietegol o gael rhybudd ymlaen llaw.