Ymweld Am Ddim

Covid-19

Ein blaenoriaeth yw eich diogelwch chi, gwirfoddolwyr a’n staff. Rydym yn annog ymwelwyr i wisgo gorchudd wyneb, i ddefnyddio gorsafoedd glanhau dwylo a chadw pellter cymdeithasol.

Oriau Agor

10am - 5pm

Ar agor pum diwrnod yr wythnos – bob dydd Mawrth, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn. 

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. 

Cysylltwch â ni

Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: gwlan@amgueddfacymru.ac.uk

Cyfeiriad

Dre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn
Llandysul
Sir Gaerfyrddin
SA44 5UP

 

Map a Sut i Gyrraedd Yma

 

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein caffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.

Mynediad

Gwybodaeth i ymwelwyr sy'n anabl.

 

Canllaw Mynediad

 

Grwpiau

> Cyngor i gwmniau bysiau

Archebwch ymlaen llaw i gael:

  • Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen)
  • Lluniaeth am ddim i yrwyr Bysiau (wrth ddangos prawf ID).

Parcio

Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!

Ydw i’n gallu dod a’r ci?

Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn croesawu cŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi, ond ni chaiff anifeiliaid eraill fynediad i adeiladau'r amgueddfa. Caiff cŵn (ac anifeiliaid cymorth emosiynol eraill) fynediad i'r gerddi a mannau awyr agored yr Amgueddfa, ond rhaid eu cadw ar dennyn.

Bws

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru: Bwcabus 460 Service - Bwcabus (traveline-cymru.info).

Camu 'Mlaen yn Amgueddfa Cymru

Ydych chi'n cyfri’ch camau bob dydd?

Hoffech chi wybod faint o gamau rydych yn eu cymryd wrth ymweld â'n hamgueddfeydd?

Rydym yn gwybod bod ymarfer corff, awyr iach a darganfod pethau newydd yn dda i'n lles corfforol a meddyliol.

Mae ymgyrch Camu ‘Mlaen Amgueddfa Cymru yn eich helpu chi i ddewis pa lwybrau ac ardaloedd i’w crwydro, wrth gyfri eich camau, darganfod pethau newydd ac ymgolli mewn diwylliant a hanes ar hyd y ffordd!

Efallai eich bod chi am fwynhau’r ardaloedd awyr agored yn Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, neu fynd ar antur dan ddaear yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Neu beth am archwilio'r orielau ac arddangosfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?

Gyda phob math o lwybrau i’w dilyn, a'r camau wedi'u cyfri, beth am fynd amdani?

Cymrwch y cam cyntaf a mwynhau'r daith!

Camu 'Mlaen

Cefnogwch Ni

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.

Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal:

Dewch i ddarganfod stori Cymru