Canllawiau Mynediad – Amgueddfa Wlân Cymru

Cyfleusterau newid babi

  • Mae cyfleuster newid cewynnau babanod yn nhoiledau'r merched a thoiledau'r dynion yn yr Amgueddfa, ac yn y toiled anabl yn y Ganolfan Adnoddau a Chasgliadau.

Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

  • Mae 3 man parcio penodol ar gyfer pobl anabl yn y maes parcio cyntaf a welwch chi. Wedi i chi groesi'r bont, mae 2 fan parcio arall ar y ddôl.

  • Mae parcio am ddim.

  • Gofynnir i fysus stopio yn y maes parcio cyntaf er mwyn i'r teithwyr ddod oddi ar y bws yno. Yna gall y bws groesi'r bont a pharcio ym maes parcio'r ddôl.

  • Mae palmantau gwastad sy'n hwylus i bawb rhwng y maes parcio a'r Amgueddfa. Dylid nodi, fodd bynnag, bod y llwybr o'r ffordd i fynedfa'r Amgueddfa ar lethr am i lawr ac mae glaswellt rhwng maes parcio'r ddôl a'r fynedfa.

  • Mae dwy gadair olwyn ar gael, gofynnwch yn y siop. Y cyntaf i'r felin gaiff falu ac nid oes modd archebu cadair ymlaen llaw, er y byddwn ni'n ystyried unrhyw geisiadau.

  • Darperir amrywiaeth o seddi drwy’r Amgueddfa. Gofynnwch i aelod o staff os oes angen sedd arnoch mewn unrhyw leoliad arall.

  • Mae lifft i'r llawr cyntaf yn y prif adeilad.

  • Mae lifft-risiau ar gael yn y Sied Wau i chi gael gwylio gweithwyr Melin Teifi wrth eu gwaith.

  • Cofiwch os gwelwch yn dda mai adeilad hanesyddol yw'r Amgueddfa, ac mae'r llawr yn anwastad mewn rhai mannau.

  • Mae caffi a siop yr Amgueddfa yn hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn.

  • Lleolir toiledau i bobl anabl ger prif adeilad y dderbynfa ac yn y Ganolfan Adnoddau a Chasgliadau.

  • Mae map o'r adeilad ar gael, sy'n nodi ardaloedd a all fod yn swnllyd. Mae'r map ar gael mewn sawl iaith.

Ymwelwyr dall neu rhannol ddall

  • Mae dehongliadau sain yn cyd-fynd â nifer o arddangosion yr Amgueddfa a defnyddir sain gefndirol yn rhai o'r orielau.

  • Mae lefel y golau yn yr oriel decstilau yn isel am resymau cadwraeth, ond mae'r llwybrau a'r paneli testun wedi eu goleuo'n glir.

Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw

  • Mae dolenni sain ar gael yn y dderbynfa/siop a'r caffi.

  • Mae deunyddiau ysgrifenedig o safon dda yn cyd-fynd â'r casgliadau.

  • Mae dehongliad gweledol o brif thema'r arddangosfa i'w weld yn glir.

Anghenion dysgu ychwanegol

  • Croesewir grwpiau ac unigolion ag anawsterau dysgu ac mae gweithgareddau arbennig ar gael ar eu cyfer os gwneir trefniadau ymlaen llaw.

  • Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Cŵn

  • Mae croeso i gŵn ar y safle ond rhaid eu cadw ar dennyn byr.

  • Mae peiriannau hanesyddol swnllyd ar waith yn yr Amgueddfa. Dim ond cŵn tywys gaiff fynd i mewn i adeiladau'r Amgueddfa.

  • Caiff powlenni dŵr eu darparu wrth fynedfa'r Amgueddfa, ar gais.

  • Cyfrifoldeb y perchennog yw glanhau ar ôl eu ci/cŵn. Mae biniau yn yr ardd a'r maes parcio.