Teuluoedd

Mae gweithgareddau ymarferol ar gael i blant drwy gydol y flwyddyn yn Amgueddfa Wlân Cymru, yn cynnwys cribo â llaw a chardiau gwnio pwyth blanced.

Mae'r gweithgareddau rhyngweithiol yma yn cael eu cynnwys wrth i blant ddilyn llwybr y 'Stori Wlanog' o amgylch yr Amgueddfa sydd hefyd ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Mae ein teithiau yn addas i'r teulu cyfan ac mae teuluoedd o bod oedran yn mwynhau gwylio ein peiriannau wrth eu gwaith.

Gall teuluoedd hefyd ddilyn taith ar eu liwt eu hunain drwy strydoedd cefn Dre-fach Felindre i weld lleoliadau nodedig y diwydiant gwlân. Nid yw'n addas defnyddio cadair wthio ar y teithiau yma.

Yn ystod gwyliau ysgol ceir rhaglen fwy cynhwysfawr o weithgareddau i'r teulu yn cynnwys cert celf lle gall plant ymgymryd â phob math o waith a gweithgareddau celf yn ogystal â gweithgareddau a theithiau i blant e.e. taith wyau yn ystod gwyliau'r Pasg. Cynhelir digwyddiadau penodol eraill yn yr Amgueddfa i gyd-fynd â gwyliau ysgol.