11. Statws Morwyn Fferm

Gweision Castell Sain Ffagan, Caerdydd, yn y 1890au. Staff a fyddai'n teithio gyda'r teulu oedd rhain yn ôl pob tebyg, nid staff parhaol y ty.

Wel, beth odd agwedd bobol leol tuag at forynion fel dosbarth? ôn nhw'n meddwl bod nhw'n bobol digon parchus neu ... ?

O, ôn nhw'n - ôn nhw - Nhw odd y dosbarth odd - odd yn - dosbarth mwy isel na'r ffarme. Bobol tai bach, chi'mod, yn syposo fod mwy isel na'r ffarme. A falle bod nhw'n llawn cystal chwel â rhai o'r ffarme, chi'mod.

Mm. Ôn nhw'n edrych arnyn nhw fel bobol anghyfrifol o gwbl?

O - wel - fel pobol chi'mod bach mwy isel ‘u stâd na nhw. Dim o'u statws nhw mor uchel â - â nhw.

Mm. ôn nhw yn gweld bod perchen tir yn gneud chi yn uwch na rhywun odd heb e?

O - ŵ - ôn. A wel - ôn nhw'n cyfri' bod ffarme - ta shwt ffarm, wa(e)th pwy mor dlawd ôn nhw - ôn nhw'n - ôn nhw'n treial bod ‘u statws nhw tam bach mwy uchel na bobol tai bach, achos - rhai odd yn mynd i wasanaethu ôn nhw, chi'mod.

Beth odd yn digwydd amser priodi? Odd hi'n debygol i was briodi merch y meistr o gwbl?

O, anamal iawn, Anamal iawn. Base anfodlonrwydd mowr yno (ta)se hynny'n digwydd. Mae e wedi digwydd, wrth gwrs. A rhan amla' nawr chwel, amser ôn nhw'n priodi e - gwedwch bod ffarmwr yn priodi nawr merch ffarm arall - base'n mynd wedyn i ofyn - cyn gofyn am y ferch - a gofyn faint ôn nhw'n rhoi gida hi. Wy'n cofio am ddynion yn neud (hyn)ny, serch na wên nhw ddim yn fodlon cyffesu bod nhw'n neud (hyn)ny. Basen nhw'n gofyn beth ôn nhw'n rhoi gida hi, chi'mod. A sana'i gwbod, beth ôn nhw'n galw hwnna nawr? Wy ddim gallu cofio. Wy ffaelu cofio, a ma fe ar flân 'y nhafod i - ŵ! - ‘rhityddia' - ôn nhw'n mynd i rityddia. Chi'mod, ôn nhw'n mynd a gofyn nawr am ferch chi'mod fel - ôn nhw'n fodlon. Mynd i rityddia. A ôn nhw'n gofyn faint o stât odd hi'n gâl (gy)da hi.

Ond fel rheol 'te fyse morwyn dim ond yn priodi rhywun yn gwasanaethu?

O na - dim ond priodi gwas. Ie.

Mrs Kate Davies, Llandysul, ganed 1892.

Tâp archif AWC rhif 3929. Recordiwyd 1973.