8. Tlawd a Balch

Mrs George, Pontypool

Mrs George, Pont-y-pwl, yn golchi â thwb doli, tua 1900. Prin yw'r lluniau o waith ty yn y cyfnod hwn.

Ag yna, beth am - dillad gwaith y dynion. Faint o - ?

O, odd lot o waith golchi ar rheiny. Achos odd y llinynnon, odd rhaid câl nhw nor wynned â'r eira. Smwddo rheiny, a phopeth.

Llinynnon y beth, nawr?

Llinynnon y drofersi.

O, ie.

Ôn nhw'n gorfod gwishgo drofersi, ch'wel. Ond heddi, wy' ddim yn gwpod beth mân nhw'n gwishgo. Ond 'na beth odd (gy)da nhw.

Beth odd dyn yn gwishgo i fynd lawr i'r pwll glo nawr? Beth odd 'i ddillad gwaith e i gyd?

Wel nawr de - 'na beth odd 'i ddillad waith e: singlet - cotton singlet, achos ôn i'n berwi nhw bob nos.

'Vest' odd honno wedyn?

Ôn.

Ie.

Ôn nhw'n dod â nhw yn 'u bocsys bwyd tua thre'. ôn nhw'n socan (gy)da (ch)wys. A wetyn ôn nhw'n dod â nhw tua thre, a ôn ni'n golchi rheina bob nos. On nhw'n câl rhai glân i fynd nôl yn y bora. Acos ôn nhw'n amal yn gweud "'Run peth byddan nhw fory 'to - cystal ichi sychu'r baw." Na - odd gwynt y (ch)wys 'run peth, ond odd e? Wel, ôn i wastad yn neud nhw bob nos.

Nawr 'singlet' odd gynta?

Ôn ni'n gweithio'n galad. Man nhw wedi cintach rhoi arian i'r coliars - ddyla'r gwracedd i gâl dwybunt am olchi 'u dillad nhw. I fi gâl gweud (wr)thoch chi!

Mrs Gwen Davies, Dowlais, ganed 1896.

Rhif archif AWC: 3414. Recordiwyd 1972.