Hawlfraint

Mae hawlfraint holl gynnwys y wefan hon yn aros yn eiddo i Amgueddfa Cymru a pherchnogion unrhyw hawlfraint arall a nodir. Os yw’r artist yn fyw, neu wedi marw ers llai na 70 mlynedd, bydd yna hawlfraint ar wahân ar y gwaith ei hun sy’n ychwanegol at hawlfraint yr atgynhyrchiad ffotograffig.

Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw waith celf o’r wefan hon, dylech gysylltu â’r Swyddog Trwyddedu Delweddau, sy’n gallu darparu tryloywluniau, printiau neu ffeiliau digidol ar eich cyfer. Lle bo angen, bydd gofyn i chi glirio’r hawlfraint gyda pherchennog yr hawlfraint.

Lle bo hawlfraint ar ddelwedd yn bodoli yn rhywle arall, ni fydd Amgueddfa Cymru yn caniatáu i’r ddelwedd gael ei hatgynhyrchu oni bai bod y defnyddiwr wedi cael caniatâd ysgrifenedig oddi wrth berchennog yr hawlfraint neu asiant y person hwnnw. Rhaid anfon copi o’r llythyr sy’n rhoi caniatâd at y Swyddog Trwyddedu Delweddau.

Eich cyfrifoldeb chi yw cael caniatâd ysgrifenedig oddi wrth berchennog yr hawlfraint neu ei [h]asiant cyn atgynhyrchu gweithiau neu cyn creu unrhyw gynnwys arall. Bydd methu â gwneud hyn yn torri’r rheolau hawlfraint.

Ymwadiad

Gall fod cysylltiadau rhwng ein dalennau gwe â safleoedd gwe eraill. Darperir y rhain er mwyn cyfleustra yn unig. Nid ydym yn cymeradwyo, ateb dros na chydsynio â gwybodaeth a datganiadau sy'n ymddangos ar y safleoedd hynny na safleoedd sy'n gysylltiedig â nhw.

Er inni gymryd pob gofal wrth baratoi cynnwys y wefan hon, mae Amgueddfa Cymru yn gwadu pob warantî, ddatganedig neu oblygedig, am gywirdeb y wybodaeth a gynhwysir yn y deunyddiau. Nid yw Amgueddfa Cymru ychwaith yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod a ddaw o ddefnyddio neu ddibynnu ar y wybodaeth, neu drwy ddefnyddio'r Rhyngrwyd yn gyffredinol.

Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych

  • C. A gaf i roi deunyddiau Amgueddfa Cymru ar weinydd ffeiliau yn f'ysgol?

    A. Cewch, ond ichi beidio codi tâl ar y defnyddiwr na newid y cynnwys.

  • C. A gaf i argraffu rhai o'r dalennau ar gyfer fy mhrosiect/traethawd?

    A. Cewch, mae Amgueddfa Cymru yn annog defnydd addysgiadol, anfasnachol o'n safle ar y we.

  • C. A gaf i roi deunyddiau Amgueddfa Cymru ar CD-ROM, at ddefnydd cyhoeddus neu fel arall?

    A. Na chewch, ddim heb ganiatâd. Gellir gofyn am ganiatâd trwy e-bostio post@nmgw.ac.uk. Rhoddir hyn ar sail pob achos unigol. Mae'n bosibl y codir ffî, yn dibynnu ar sut y bwriedir defnyddio'r deunyddiau.