Croeso Nôl

Yn dilyn cyhoeddi cyfnod atal byr gan Lywodraeth Cymru, bydd ein holl amgueddfeydd ar gau o ddydd Sadwrn 24 Hydref 2020.

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cadw chi a’n staff yn ddiogel, felly byddwch yn ystyriol o bobl eraill a pheidiwch ag ymweld os ydych chi’n byw mewn ardal dan gyfyngiadau symud, neu os oes gennych chi unrhyw symptomau COVID-19.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, rhaid i bawb wisgo gorchudd wyneb mewn gofodau dan do yn ein Hamgueddfeydd. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sydd ddim yn gwisgo gorchudd wyneb heb fod ganddynt reswm da, er enghraifft am resymau iechyd a lles. Hoffem annog ymwelwyr i lawrlwytho App COVID-19 GIG ac i sganio’r codau QR wrth i chi ddod i mewn i’n hamgueddfeydd. Bydd y codau yn cael eu harddangos mewn mannau cyhoeddus o amgylch ein hadeiladau.

Dyma beth sydd angen i chi ei wybod >