Cyfnod Allweddol 3-4 a Bagaloriaeth Cymru

Am ddim Yn yr ysgol

John Piper - mynyddoedd gogledd Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Amgueddfa Lechi Cymru

Cynlluniwyd yr adnodd dysgu hwn i gefnogi athrawon ac addysgwyr eraill sydd am i’w disgyblion ymgysylltu â gwaith yr artist John Piper (1903-1992), yn enwedig ei baentiadau a darluniau o fynyddoedd gogledd Cymru.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Dan arweiniad athro

Her Menter a Chyflogadwyedd - Bagloriaeth Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015.

Mae’r adnoddau yn cynnwys dogfen her ar gyfer eich darn o waith fydd yn cael ei asesu, ynghyd â her i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer eu project.

I brofi byd busnes a gwaith mae angen i chi weithio gyda’ch gilydd fel tîm o 3-6 a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth rydych wedi casglu wrth ymchwilio Amgueddfa Cymru i gynllunio, dylunio a datblygu cynnyrch newydd yn seiliedig ar gasgliadau’r amgueddfeydd. Rhaid i’r cynnyrch fod yn gost-effeithiol, arloesol ac yn addas ar gyfer gwerthiant yn siopau Amgueddfa Cymru.

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Cwricwlwm

Bagloriaeth Cymru CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Her Menter a Chyflogadwyedd – Cynnyrch

Taith Chwarel Vivian

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfle i fynd am dro tu hwnt i’r Amgueddfa at droed Chwarel Vivian a thuag at Ysbyty'r Chwarel, i glywed mwy am hanes y chwarelwyr ar y graig ac yn y gwaliau, ac i weld rhai o’r dyfeisiadau Fictoraidd blaengar fel y blondin a’r inclen.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Tu ôl i'r llenni yn yr Amgueddfa

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfres o weithgareddau ymarferol fydd yn helpu disgyblion i ddeall gwaith amrywiol yr Amgueddfa Lechi.

Hyd: 1 awr x 2
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
Am ddim Yn yr ysgol

Cynllun Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Amgueddfa Lechi Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn arwain prosiect i gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Dinasyddiaeth Fyd-Eang - Bagloriaeth Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

 

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015.

Mae’r adnoddau yn cynnwys her fer i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer yr her Dinasyddiaeth Fyd-Eang. Maent yn cynnwys cyflwyniad, pecyn ffynonellau a gweithgareddau.

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.