Taith Chwarel Vivian

Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfle i fynd am dro tu hwnt i’r Amgueddfa at droed Chwarel Vivian a thuag at Ysbyty'r Chwarel, i glywed mwy am hanes y chwarelwyr ar y graig ac yn y gwaliau, ac i weld rhai o’r dyfeisiadau Fictoraidd blaengar fel y blondin a’r inclen.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Y Lôn Goed

Amgueddfa Lechi Cymru

Taith dywys drwy lygaid ein Saer.  Cyfle i ddysgu mwy am y cwt sils, y craen coed, yr olwyn ddwr, y ffowndri a rhai o'n patrymau pren rhyfeddol.

Hyd: 45 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn hon yn cael ei threialu.
Am ddim Yn yr ysgol

Cynllun Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Amgueddfa Lechi Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn arwain prosiect i gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddim Yn yr ysgol

Her y Gymuned - Bagloriaeth Cymru

CA4 – Lefel Uwch

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015.

Bydd yr adnoddau yn helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer  her y Gymuned. 

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.