Sut i Archebu - Amgueddfa Lechi Cymru

Archebu Lle

Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu dau wythnos ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3702 i gadw lle. Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o’ch archeb wedyn. Cofiwch ddarllen hwn yn ofalus. Bydd angen I ysgolion archebu lle drwy’r broses arferol ac nid drwy Eventbrite.

Dim ond un dosbarth, cyfanswm o 30 (plant a staff ysgol) fydd yn cael ymweld bob dydd.

Rydym yn annog ysgolion i archebu sesiynau yn y bore pan mae'r safle'n dawelach.

Mae sesiynau ffilm a hollti llechi ar gael i ysgolion yn eu swigod – rhaid archebu ymlaen llaw.

Rhaid i grwpiau ysgolion rannu'n grwpiau llai wrth ymweld â gofodau mewnol eraill ar y safle megis tai Fron Haul/yr olwyn ddŵr.

Mae teithiau cerdded Chwarel Vivian a gweithdai'r olwyn ddŵr ar agor – rhaid cynnal gweithdai’r olwyn ddŵr tu allan felly mae hyn yn ddibynnol ar y tywydd.

Prisau

Codir tâl am sesiynau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, a sydd dan arweiniad staff yr amgueddfa. Mae pedwar pris gwahanol (heb gynnwys TAW):

  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 15 disgybl – £40
  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 35 disgybl – £60
  • Sesiwn hyd at hanner diwrnod ar gyfer hyd at 35 disgybl – £100

Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys ar gyfer sesiynau am ddim.

Anfonir anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad.  Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW ond gall y rhan fwyaf o ysgolion ei hawlio’n ôl gan eu Hawdurdod Lleol.

Canslo

Os caiff ymweliad ei ganslo wedi 10am ar y diwrnod blaenorol, neu os yw grŵp yn hwyr yn cyrraedd ac yn colli eu sesiwn, bydd yn rhaid talu’r pris llawn. Gellir codi tâl trafod o £25 am ganslo neu newid archeb.​ Os yw eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’r tîm Addysg cyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi eich lle i grŵp arall. Ffôn (029) 2057 3702. Gadewch neges ar y peiriant ateb os yw’r llinell yn brysur.

Cofiwch fod angen yr wybodaeth ganlynol wrth archebu’ch lle

  • Enw’ch ysgol / sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r athro / arweinydd y grŵp
  • Nifer y myfyrwyr
  • Ystod oedran
  • Oes gan unrhyw ddisgyblion anghenion ychwanegol y dylem wybod amdanynt?
  • Nifer y staff
  • Y gweithgareddau wedi’u hwyluso yr hoffech eu harchebu
  • Unrhyw thema neu bwnc yr hoffech ganolbwyntio arni/arno
  • A oes angen cadw lle i fwyta cinio arnoch?

Oriau agor

Y Pasg-Hydref: 10am-5pm, bob dydd

Tachwedd-y Pasg: 10am-4pm, ar gau bob dydd Sadwrn.

Iechyd a diogelwch

Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau asesiad risg ar gael

yma.

Rhaid goruchwylio grwpiau 16 oed neu iau drwy’r amser.

Cymarebau oedolyn/plentyn:

  • Dan 7 oed – 1 athro i bob 5 plentyn.
  • Cynradd – 1 arweinydd i bob 10 plentyn.
  • Uwchradd – 1 arweinydd i bob 15 plentyn.

Ymweld

Mae digonedd o le parcio am ddim i fysiau. Mae’r Amgueddfa ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis.

Mynediad i bobl anabl

Mae modd defnyddio cadair olwyn ar y rhan fwyaf o’r safle, ar hyd pafin o lechi a llwybrau a chanddynt naddion llechi drostynt. Oherwydd natur yr Amgueddfa, mae’n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer rhai rhannau o’r Amgueddfa.

Mae toiled i’r anabl yng Nghaffi’r Ffowntan.

Dillad addas

Bydd y rhan fwyaf o’ch ymweliad yn yr awyr agored, felly dewch â dillad addas ar gyfer pob math o dywydd.

Ar ôl cyrraedd

Dylai arweinydd y grŵp gofrestru yn y Siop. Bydd y staff yno’n cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn angen gwybod faint yn union o ymwelwyr sydd yn eich grŵp.

Dylai grwpiau aros yn y bws tan fod yr arweinydd wedi cofrestru – os yn bosibl.

Bwyd a diod

O dan dô: Mae dwy ystafell ar wahân ar gael (Elidir ac Elidir Fach) ar gyfer grwpiau sydd am fwyta pecyn cinio. Dylid archebu amser yn yr ystafelloedd ymlaen llaw.

Y tu allan: Mae llefydd picnic awyr agored ar gael (mae rhai'n gysgodol). Gofynnwch i Gynorthwy-ydd Amgueddfa am gyfarwyddiadau. Mae pan picnic ar gael ym Mharc Padarn hefyd.

Caffi: Ffoniwch Gaffi’r Ffowntan ymlaen llaw i archebu pecynnau cinio ar (029) 2057 3715.

Tai bach

Mae tai bach ar gael yn y caffi. Mae bloc o dai bach hefyd ar gael ym maes marcio Parc Gwledig Padarn.

Uned Newid Lleoedd

Mae ‘Uned Newid Lleoedd’ ar gael yn y caffi.

Map

Mae map o’r Amgueddfa ar gael o’r siop.

Lle i gadw cotiau a bagiau

Gofynnwch i aelod o staff yr Amgueddfa am le addas i gadw cotiau a bagiau.

Ffonau symudol

Peidiwch â defnyddio’ch ffôn symudol wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, er cwrteisi i ymwelwyr eraill.

Siop yr Amgueddfa

Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach, llyfrau a chardiau post. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau mai nifer fach o blant sydd yn y siop ar unrhyw adeg.

Canllawiau’r Amgueddfa

Rhaid i blant a phobl ifanc dan 16 oed fod dan oruchwyliaeth drwy’r amser.

Rhaid i ymwelwyr beidio â:

  • crwydro i lefydd nad ydynt ar agor i’r cyhoedd
  • ymddwyn yn afreolus
  • dringo ar unrhyw beiriannau ar y safle.

Ni chaniateir ysmygu ar y safle.

Caniateir cŵn ar y safle ond nid yn y tai ac mae’n rhaid eu cadw ar dennyn ar bob adeg. Mae bagiau pwrpasol ar gael yn y siop er mwyn i berchnogion godi baw eu ci.

Ymweliadau rhagflas

Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.

Cymorth cyntaf

Os bydd angen Cymorth Cyntaf, cysylltwch ag un o’r Cynorthwywyr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.

Plant ar goll

Dywedwch wrth blant am roi gwybod i aelod o’r staff os ydyn nhw ar goll. Yna bydd Cynorthwy-ydd Amgueddfa yn dod o hyd i un o arweinwyr y grŵp.

Os bydd arweinydd grŵp yn sylwi fod aelod o’r grŵp ar goll, dylai ddweud wrth aelod o staff yr Amgueddfa fydd yn gweithredu’n briodol.

Unrhyw argyfwng arall

Os bydd unrhyw fath arall o argyfwng, dywedwch wrth Gynorthwy-ydd Amgueddfa.

Polisi amddiffyn plant

Mae polisi amddiffyn plant yr Amgueddfa ar gael yma.