Digwyddiadau

Digwyddiad: CERDDORIAETH YN YR AMGUEDDFA - CANDELAS

Wedi'i Orffen
28 Hydref 2018, 2.30pm
Pris £7
Addasrwydd Pawb
Archebu lle https://www.seetickets.com/event/candelas/national-slate-museum-llanberris/1268266

Candelas

Mae Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn falch iawn o gyhoeddi ei ' GIG ' cyntaf erioed gyda'r grwp poblogaidd CANDELAS yn perfformio yn yr amgueddfa ar 28 Hydref 2018 @2.30pm

Mae’r digwyddiad wedi ei drefnu drwy Kids in Museums gan  ‘Geitloudinlibraries’ - ymgyrch sy’n ceisio cyflwyno cerddoriaeth safon uchel mewn canolfannau annisgwyl fel llyfrgelloedd, amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd.Ers 2005, mae'r ymgyrch wedi cyflwyno gigs safon uchel dros y wlad yn cyflwyno perfformwyr cerddoriaeth fel Adele, Jessie J, Plan B, Cate Le Bon a Clean Bandit.

CANDELAS:  Ar ôl iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, a oedd yn rhannu’r un enw â’r band yn 2013, mae gyrfa Candelas wedi mynd o nerth i nerth. Buan iawn daeth caneuon megis ‘Anifail’ a ‘Symud Ymlaen‘ yn gyfarwydd iawn i dorfeydd ledled Cymru.  Ers yr albym gyntaf yma maent wedi ennill nifer o gategorïau yng  Ngwobrau’r Selar, yn ogystal â chael eu dewis i fod yn un o fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru 2014-15. Mae eu fersiwn nhw o'r gân enwog 'Rhedeg i Paris' (Yr Anrhefn) wedi cael bron i ddau gan mil o hits ar Youtube. Un uchafbwynt oedd cael chwarae gig hefo cerddorfa'r Welsh Pops nôl yn Eisteddfod y Feni, 2016. Ar hyn o bryd mae Candelas yn teithio o amglych Cymru yn hedleinio gigs ac yn hyrwyddo eu trydedd albwm, 'Wyt Ti'n Meiddio Dod i Chwarae?' sydd newydd ei ryddhau ar label I Ka Ching.

 

 

 

Digwyddiadau