Digwyddiadau

DigwyddiadSioe Trenau Bach

Wedi'i Orffen
27 Chwefror1 Mawrth 2019, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Dydd Mercher - Gwener   27ain, 28ain a 1af Mawrth  2019

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Lechi Cymru dros yr hanner tymor am ddiwrnod o godi stêm yn y Sioe Trenau Bach.

Bydd digonedd o weithgareddau i’w mwynhau gan gynnwys reidiau am ddim i blant ar injans stêm a threnau bychain, arddangosiadau, sgyrsiau dyddiol, ac amrywiaeth o injans a threfniannau o bob lliw a llun yn cael eu harddangos – o injans lled 00mm hyd at 32mm.      Cofiwch hefyd i ddod â’ch trenau lled 00 eich hun i’w defnyddio ar y trac prawf i blant!

Dyma gyfle gwych i bobl o bob oed fwynhau arddangosiadau gweithiol - paradwys i bawb sydd â diddordeb mewn rheilffyrdd, a diwrnod allan ardderchog i’r teulu cyfan!

Digwyddiadau