Arddangosfa: Arddangosfa Merched Chwarel

Postar Merched Chwarel
Grŵp o bedwar artist yw Merched Chwarel- Marged Pendrell, Jwls Williams, Lisa Hudson a Lindsey Colbourne.
Y mae eu gwaith yn gysylltiedig â chwareli Gogledd Cymru lle maent yn byw a gweithio.
Mae'r criw wedi bod yn cydweithio ers 2016 gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a’r curadur Jill Piercy.
"Roedd ein cyfnod Ymchwil a Datblygu yn seiliedig ar ddarganfod hanesion disylw merched o fewn ardaloedd chwareli. Trwy ein proses o ymchwilio presenoldeb ac olion troed merched bûm yn cydgerdded yn y chwareli ac yn ymgysylltu â’r gymuned. Datblygodd hwn yn ymateb haenog wrth archwilio treftadaeth ddiwydiannol, hunaniaeth, cyswllt â lle, iaith, mapio, marciau ac ymateb cyfoes Merched i etifeddiaeth y chwareli. Datblygodd ein syniadau creadigol yn ystod cyfnod grant Cynhyrchu trwy ymateb i’r cwestiwn:
‘Pwy ydym ni, Merched Chwarel y gorffennol, y presennol a’r dyfodol? Sut mae ein hestheteg, hunaniaeth a’n cyswllt â lle, diwylliant, ac iaith yn cael ei gyflwyno drwy’r chwareli?’
Yn ogystal â chanolbwyntio ar ein prosesau artistig unigol a chydweithiol, mae ein gwaith wedi mynd â ni allan i’r gymuned, gan adeiladu ymgysylltiad parhaus drwy ein gweithdai Canu Chwarel a’n presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol. Yr ydym hefyd wedi ymddangos ar y teledu a radio"
Y mae’r gwefan yn rhan annatod o’n prosiect, yn dangos ein gwaith fel mae’n datblygu a gwaith artistiaid eraill yn ogystal a digwyddiadau, sylwebaeth a gwahodd straeon: