Sgwrs: Dinorwig '69 - Cofio'r Cau : SGWRS
Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Cadi Iolen - Curadur Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis

Edrych lawr yr inclen tuag at Bonc Mills ( Ffiar Injan) Mai 1968 © Dr Mike Swaine
Ar Awst 22 1969 wedi 200 mlynedd o lafur caled, daeth distawrydd i Chwarel Dinorwig. Hanner canrif ers cau’r chwarel , dewch i ddysgu i ddysgu mwy am amgylchiadau’r cau, beth ddigwyddodd wedyn a sut mae Amgueddfa Lechi Cymru yn coffau’r digwyddiad.
Cadi Iolen, Curadur yr amgueddfa, fydd yn ein harwain drwy’r hanes yn cynnwys clipiau o’r archif sain.
AM DDIM ond dylid trefnu lle drwy gysylltu a siop yr amgueddfa drwy ffonio 02920 573702 neu ebostio llechi@amgueddfacymru.ac.uk