Cwrs: Cyflwyniad i Waith Gof


Mae’r cyrsiau llawn diwrnod yma yn rhoi’r cyfle i chi droi eich llaw at grefft hynafol y gof yn efail wreiddiol y Gilfach Ddu, lle bu cenedlaethau o ofaint yn gwasanaethu Chwarel Dinorwig - Stori Llechi | National Museum Wales (amgueddfa.cymru)
Mewn grŵp bychan dan ofal gof yr Amgueddfa, Liam Evans, cewch gyflwyniad at dechnegau gofannu (forging), ffurfio a thorri dur eirias er mwyn creu eich procer metel prydferth eich hun i fynd gartref. *
Mae’r cwrs llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr. Bydd dau le i’w archebu ym mhob sesiwn.
*Os oes amser byddwch hefyd yn creu eitem bychan arall o restr awgrymiedig.
Gwybodaeth ddiogelwch:
- I gymryd rhan yn y cwrs hwn, mae'n ofynnol i'r cyfranogwyr wisgo dillad digonol (gweler y rhestr isod) a gwrando ar gyfarwyddiadau'r gof a'u dilyn o ran gweithio'n ddiogel yn yr Efail.
- Rhaid i unrhyw ddillad fod wedi eu gwneud o ffibr naturiol, cotwm 100% os yn bosib.
- Rhaid gwisgo llewys hir.
- Rhaid gwisgo trowsus hir sy'n cyrraedd top yr esgid.
- Rhaid gwisgo esgidiau diogelwch. Rhaid dod â'ch esgidiau eich hun.
- Rhaid gwisgo'r sbectolau diogelwch gaiff eu darparu yn yr efail drwy'r amser. Darperir ffedog ledr a menig.
Bydd methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau diogelwch y gof yn arwain at ganslo'r sesiwn.
Mae croeso i chi ddod â pecyn cinio neu ymweld â'n caffi ar y safle.
Gallwn gynnig gostyngiad o 10% i gyfranogwyr y cwrs yn ein caffi wrth gynhyrchu tocyn.
Gallwch barcio yn y maes parcio i ymwelwyr, codir tâl o £5.50 a gellir prynu tocyn parcio o’r peiriant talu ac arddangos. Nodwch y gellir talu gydag arian parod neu trwy'r ap ‘pay by phone’.
Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim. Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cynllunio'ch ymweliad yma - Ymweld Amgueddfa Lechi Cymru | National Museum Wales
Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.
Iaith: Mae'r hwylusydd ar gyfer y cwrs hwn yn ddwyieithog (Cymraeg / Saesneg).
Cymhwyster consesiwn: Myfyrwyr ag NUS, rheini sy'n derbyn budd-daliadau, neu pobl dros 60 oed
Mae'r cwrs yma yn addas ar gyfer 18+ oed
Hygyrchedd: Mae'r Efail yn daith gerdded 5 munud o'r maes parcio - cysylltwch â events@museumwales.ac.uk cyn archebu i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.
Telerau ac amodau: Mae'r telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau ar gael i'ch ystyried fan hyn.
Drwy archebu lle ar ein cyrsiau, rydych chi'n ein cefnogi ni i adrodd stori Cymru er mwyn ysbrydoli pawb. Diolch o galon.
Cymerwch olwg ar gyrsiau eraill gan Amgueddfa Cymru yma: Cyrsiau Creadigol yn Amgueddfa Cymru | Museum Wales