Digwyddiad: Penblwydd 50: Hanes yr Hanner Cant

Llun: Amgueddfa Lechi Llanberis

Cadi y Curadur

Addurno Llechi

Tro ar y Trên Bach


Gelltydd Gwych

Hwyrnos yn yr Amgueddfa Lechi
Yn mis Mai 2022 bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed!
Mae nifer o weithgareddau ymlaen yn mis Mai felly dewch i ymuno â ni!
25.5.2022 – 31.5.2022
Dathlu'r 50: Hanes yr Hanner Cant
Dewch i weld ein harddangosfa arbennig, Hanes yr Hanner Cant, sy'n cynnwys lluniau drwy'r degawdau a gwaith celf gan artistiaid ac ysgolion lleol.
Dydd Mercher 25.5.2022
Wil Ffitar
Dewch yn ôl mewn amser gyda chymeriad newydd y chwarel! Mis Mai 1972, ac mae Wil, fu gynt yn gweithio fel ffitiwr yn y gweithdai peirianneg yma, nawr yn paratoi ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf yn y gwaith fel tywysydd yn yr Amgueddfa newydd sbon.
Amser: 11-1pm, 2-4pm Cost: AM DDIM Galw heibio
Dydd Iau 26.5.2022
Y Lôn Goed
Ymunwch â chyn saer coed yr Amgueddfa, Peredur Hughes, am sgwrs a thaith am rôl pren yn hanes yr Amgueddfa.
*Plîs byddwch yn ymwybodol bod rhan o'r daith hon i fyny rhes o risiau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk
Amser: 12-12.45, 2-2.45pm Cost: Talwch beth allwch chi I archebu lle: Eventbrite Addas i: Oedolion
5 Degawd o Gasglu - Ar-Lein
Mae llawer o bethau'n cael eu casglu mewn hanner canrif! Yn y sgwrs ar-lein hon, bydd Curadur yr Amgueddfa, Cadi Iolen, yn trafod un gwrthrych allweddol o bob degawd sy'n ein helpu i ddeall hanes y diwydiant llechi.
Amser: 6pm, 7pm Cost: Talwch beth allwch chi I archebu lle: Eventbrite Addas i: Oedolion
Dydd Gwener 27.5.2022
Gelltydd Gwych
Dewch i weld yr unig inclein lechi sydd ar waith yn y byd heddiw yn yr arddangosiad byw yma.
*Plîs byddwch yn ymwybodol bod y sgwrs hon yn digwydd tu allan i adeiladau'r amgueddfa. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk.
Amser: 2-2.30pm, 2.30-3pm Cost: Talwch beth allwch chi I archebu lle: Eventbrite Addas i: Oedolion
Olwynion Dŵr Dyfeisgar
Dewch i weld sut mae ein holwynion dŵr anhygoel wedi cynnal pŵer y gweithdai dros y blynyddoedd!
Amser: 11.30-12pm, 3.30-4pm Cost: Talwch beth allwch chi I archebu lle: Eventbrite Addas i: Oedolion
Dydd Sadwrn 28.5.2022
Dathlu Crefftau Traddodiadol
Mae crefftau traddodiadol yn defnyddio pren, llechi a metel wastad wedi bod yn rhan allweddol o fywyd Gilfach Ddu. Dewch i ddarganfod hanes y crefftwyr anhygoel hyn a'u doniau di-ri.
Dewch i roi tro ar fersiynau modern y crefftau hyn:
Gweithdai
Celf Llechi gyda Siân Owen Amser: 11-1, 2-4 Cost: £10 I archebu lle: Eventbrite Addas i: Oedolion
Gan ddwyn ein hysbrydoliaeth gan gelf werin y chwarelwyr, dewch i greu eich gwaith celf eich hun gyda Siân.
Gwehyddu Helyg gyda Eirian Muse Amser: 11-1, 2-4 Cost: £20 I archebu lle: Eventbrite Addas i: Oedolion
Dewch i roi cynnig ar greu daliwr bwyd adar helyg gyda Eirian.
Addurno Llechi Amser: 12-3 Cost: £1.50 Galw heibio Addas i: Teuluoedd
Dyma'ch cyfle i fod yn gelfydd ac addurno darn o lechen.
Arddangosiadau
Amseroedd Arddangos Hollti Llechi: 10.15am, 11.15am, 1.15pm, 2.15pm, 3.15pm, 4.15pm Cost: Am ddim Galw heibio
Dewch i fwynhau’r grefft drawiadol o hollti a naddu llechi wrth i un o’n crefftwyr profiadol hollti llechen o flaen eich llygaid.
Bwrw ati! Gofaint wrth eu Gwaith Amser: 10-12yh, 1-4yh Galw heibio Pris: Am ddim
Dewch i weld yr efail dan ei sang unwaith eto wrth i'r gwreichion dasgu dan forthwyl ein gof Liam a thri crefftwr arall.
Gweithgareddau i Deuluoedd
Ymunwch â ni ar gyfer gweithgareddau'r dydd:
Tro ar y Trên Bach Amser: 11-4pm Cost: Croeso i chi gyfrannu Galw heibio
Cert Celf Amser: Drwy’r dydd Cost: Croeso i chi gyfrannu Galw heibio
Gemau Traddodiadol Amser: Drwy’r dydd Cost: Croeso i chi gyfrannu Galw heibio
Pwll Tywod Amser: Drwy’r dydd Cost: Croeso i chi gyfrannu Galw heibio
Wil Ffitar
Mis Mai 1972, ac mae Wil, fu gynt yn gweithio fel ffitiwr yn y gweithdai peirianneg yma, nawr yn paratoi ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf yn y gwaith fel tywysydd yn yr Amgueddfa newydd sbon yfory. Dewch yn ôl mewn amser gyda chymeriad newydd y chwarel!
Amser: 11-1pm, 2-4pm Cost: AM DDIM Galw heibio
Dydd Sul 29.5.2022
5 Degawd o Gasglu - Fyw
Mae llawer o bethau'n cael eu casglu mewn hanner canrif! Ymunwch â Churadur yr Amgueddfa, Cadi Iolen, wrth iddi ddewis un gwrthrych allweddol o bob degawd sy'n ein helpu i ddeall hanes y diwydiant llechi.
Amser: 2-3pm Cost: Talwch beth allwch chi I archebu lle: Eventbrite Addas i: Oedolion
Wil Ffitar
Mis Mai 1972, ac mae Wil, fu gynt yn gweithio fel ffitiwr yn y gweithdai peirianneg yma, nawr yn paratoi ar gyfer ei ddiwrnod cyntaf yn y gwaith fel tywysydd yn yr Amgueddfa newydd sbon yfory. Dewch yn ôl mewn amser gyda chymeriad newydd y chwarel!
Amser: 11-1, 2-4 Cost: AM DDIM Galw heibio
Gweithdy Crefft
Addurno Llechi Amser: 12-3 Cost: £1.50 Galw heibio Addas i: Teuluoedd
Dyma'ch cyfle i fod yn gelfydd ac addurno darn o lechen.
Gweithgareddau i Deuluoedd
Ymunwch â ni ar gyfer gweithgareddau'r dydd:
Tro ar y Trên Bach Amser: 11-4 Cost: Croeso i chi gyfrannu Galw heibio
Cert Celf Amser: Drwy’r dydd Cost: Croeso i chi gyfrannu Galw heibio
Gemau Traddodiadol Amser: Drwy’r dydd Cost: Croeso i chi gyfrannu Galw heibio
Pwll Tywod Amser: Drwy’r dydd Cost: Croeso i chi gyfrannu Galw heibio
Dydd Llun 30.5.2022
Hwyrnos: Pobl Ifanc
Digwyddiad arbennig i bobl ifanc 12-15 oed gael mwynhau'r Amgueddfa. Bydd cyfle i brintio sgrin, gwehyddu helyg, plannu hadau, creu cyfnodolyn, pizza a mwy!
Amser: 6-8pm Cost: AM DDIM (codir tâl bychan am fwyd) I archebu lle: Eventbrite Addas i: 12-15
Dydd Mawrth 31.5.2022
Sesiwn Sgwrsio gyda Dr Dafydd Roberts a Cadi Iolen
Ymunwch â chyn Geidwad yr Amgueddfa, Dr Dafydd Roberts, wrth iddo sgwrsio gyda Cadi Iolen am ei yrfa a dehongli hanes y diwydiant llechi yn yr Amgueddfa.
Amser: 1-2pm, 3-4pm Cost: Talwch beth allwch chi I archebu lle: Eventbrite Addas i: Oedolion
Ad-daliadau a Chyfnewidiadau: Ni fydd yn bosib cael ad-daliad neu gyfnewid y tocynnau yma - drwy brynnu tocyn rydych yn cytuno i'r telerau hyn. Mae tocynnau ar gael i'w prynu o flaen llaw drwy Eventbrite - bydd unrhyw lefydd dros ben yn cael eu gwerthu ar y dydd ar dermau cyntaf i'r felin.
Parcio: Mae costau parcio arferol yn berthnasol i'r digwyddiad yma.
Cyfeiriad: Llanberis, Gwynedd LL55 4TY
Ffôn: 03001112333
Ein blaenoriaeth yw eich diogelwch chi, gwirfoddolwyr a’n staff. Rydym yn announced ymwelwyr i wisgo gorchudd wyneb, i ddefynyddio gorsafoedd glanhau daylong a chadw pellter cymdeithasol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn wahanol i Loegr. Coronafeirws (COVID-19) | Pwnc | LLYW.CYMRU
Ymweld Amgueddfa Lechi Cymru | National Museum Wales
Chwaraewch eich rhan yn stori Cymru drwy ddod yn aelod neu drwy gyfrannu heddiw. Ffyrdd i'n Cefnogi | National Museum Wales (amgueddfa.cymru)