Digwyddiadau

Digwyddiad: Sgyrsiau a Theithiau Safle

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
O 26 Mai 2022, 11-4yh
Pris Talwch beth gallwch
Addasrwydd All
Archebu lle Eventbrite

Gelltydd Gwych

Cadi y Curadur 

TOCYNNAU
 

Dydd Iau 26.5.2022  

Y Lôn Goed 

Ymunwch â chyn saer coed yr Amgueddfa, Peredur Hughes, am sgwrs a thaith am rôl pren yn hanes yr Amgueddfa.

*Plîs byddwch yn ymwybodol bod rhan o'r daith hon i fyny rhes o risiau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk

Amser: 12-12.45, 2-2.45pm      Cost: Talwch beth allwch chi     I archebu lle: Eventbrite          Addas i: Oedolion 

 

Dydd Gwener 27.5.2022  

Gelltydd Gwych

Dewch i weld yr unig inclein lechi sydd ar waith yn y byd heddiw yn yr arddangosiad byw yma.  

*Plîs byddwch yn ymwybodol bod y sgwrs hon yn digwydd tu allan i adeiladau'r amgueddfa. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk.

Amser: 2-2.30pm, 2.30-3pm    Cost: Talwch beth allwch chi     I archebu lle: Eventbrite            Addas i: Oedolion 

 

Olwynion Dŵr Dyfeisgar 

Dewch i weld sut mae ein holwynion dŵr anhygoel wedi cynnal pŵer y gweithdai dros y blynyddoedd! 

Amser: 11.30-12pm, 3.30-4pm    Cost: Talwch beth allwch chi     I archebu lle: Eventbrite               Addas i: Oedolion 

 

Dydd Sul 29.5.2022 

5 Degawd o Gasglu - Fyw

Mae llawer o bethau'n cael eu casglu mewn hanner canrif! Ymunwch â Churadur yr Amgueddfa, Cadi Iolen, wrth iddi ddewis un gwrthrych allweddol o bob degawd sy'n ein helpu i ddeall hanes y diwydiant llechi. 

Amser:   2-3pm           Cost: Talwch beth allwch chi          I archebu lle: Eventbrite       Addas i: Oedolion 

 

Dydd Mawrth  31.5.2022  

Sesiwn Sgwrsio gyda Dr Dafydd Roberts a Cadi Iolen 

Ymunwch â chyn Geidwad yr Amgueddfa, Dr Dafydd Roberts, wrth iddo sgwrsio gyda Cadi Iolen am ei yrfa a dehongli hanes y diwydiant llechi yn yr Amgueddfa. 

Amser:  1-2pm, 3-4pm       Cost: Talwch beth allwch chi      I archebu lle: Eventbrite        Addas i: Oedolion

 

Ad-daliadau a Chyfnewidiadau: Ni fydd yn bosib cael ad-daliad neu gyfnewid y tocynnau yma - drwy brynnu tocyn rydych yn cytuno i'r telerau hyn. Mae tocynnau ar gael i'w prynu o flaen llaw drwy Eventbrite - bydd unrhyw lefydd dros ben yn cael eu gwerthu ar y dydd ar dermau cyntaf i'r felin.

Parcio: Mae costau parcio arferol yn berthnasol i'r digwyddiad yma.

Cyfeiriad: Llanberis, Gwynedd LL55 4TY

Ffôn: 03001112333

Ein blaenoriaeth yw eich diogelwch chi, gwirfoddolwyr a’n staff. Rydym yn announced ymwelwyr i wisgo gorchudd wyneb, i ddefynyddio gorsafoedd glanhau daylong a chadw pellter cymdeithasol. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn wahanol i Loegr. Coronafeirws (COVID-19) | Pwnc | LLYW.CYMRU

Ymweld Amgueddfa Lechi Cymru | National Museum Wales

Chwaraewch eich rhan yn stori Cymru drwy ddod yn aelod neu drwy gyfrannu heddiw. Ffyrdd i'n Cefnogi | National Museum Wales (amgueddfa.cymru)

Digwyddiadau