Digwyddiadau

Digwyddiad: Actorion Preswyl Haf 2023

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
30 Gorffennaf–31 Awst 2023
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Dim angen bwcio - sesiynau galw mewn!

Wil 'Fittar'

Mae dynes yn sefyll tu allan i dy Chwarelwr bach yn gafael mewn arwydd 'nid oes bradwr yny tŷ hwn'

Diwrnod Leusa yn y tŷ Chwarelwr o 1901

mae actores preswyl yn dangos pethau pwysig i bobl yn Nhy'r Peiriannydd

Diwrnod Hannah yn Nhy'r Peiriannydd

Dewch i ymuno a'n 3 actor preswyl wrth iddynt ddod a'r amgueddfa yn fyw yr haf yma! 

 

WIL FFITAR  (Lleoliad: Gweithdai Ffitio)                                                                                                

Fydd Wil y Ffitar yn hel atgofion am ei waith yn y gweithdai peirianneg yma cyn iddynt gau yn 1969 a cael eu hail-agor fel amgueddfa yn 1972!  

  • Dydd Llun 28 Awst

 

DIWRNOD LEUSA    (Lleoliad: Tŷ 1901 Tai’r Chwarelwyr)  12pm - 4pm                                                       

Ymunwch â Leusa - gwraig Chwarelwr - sydd yn byw yn Rhif 2 Fron Haul, wedi ei ddodrefnnu i gyfnod 1901 ym Methesda!  Fydd Leusa yn sôn am yr amser caled sydd yn effeithio hi a'i theulu yn ganol Streic Fawr y Penrhyn yn 1901!  

  • Dydd Sadwrn  19 Awst 
  • Dydd Sul 27 Awst 
     

DIWRNOD HANNAH    (Lleoliad: Tŷ’r Peiriannydd)    12pm - 4pm   

Dewch i ddarganfod mwy am y Tŷ Peiriannydd a'r pethau sydd ynddo a beth mae Hannah angen ei wneud yn ddyddiol  gadw trefn yn y ty! 

  • Dydd Sul 13 Awst 
  • Dydd Sul  20 Awst 
  • Dydd Sadwrn  26  Awst

 

*I gyd yn sesiynau galw mewn - nid oes angen bwcio

 

Digwyddiadau