Digwyddiad:Actorion Preswyl Haf 2024
Dewch i ymuno a'n actorion preswyl wrth iddynt ddod a'r amgueddfa yn fyw yr haf yma!
DIWRNOD LEUSA (Lleoliad: Tŷ 1901 Tai’r Chwarelwyr) 12pm - 4pm
Ymunwch â Leusa - gwraig Chwarelwr - sydd yn byw yn Rhif 2 Fron Haul, wedi ei ddodrefnnu i gyfnod 1901 ym Methesda! Fydd Leusa yn sôn am yr amser caled sydd yn effeithio hi a'i theulu yn ganol Streic Fawr y Penrhyn yn 1901!
- Sadwrn a Sul, 27 & 28 Gorffennaf
- Dydd Sul 4 Awst
- Dydd Sadwrn 10 Awst
- Dydd Sadwrn 17 Awst
- Dydd Sul 25 Awst
DIWRNOD HANNAH (Lleoliad: Tŷ’r Peiriannydd) 12pm - 4pm
Dewch i ddarganfod mwy am y Tŷ Peiriannydd a'r pethau sydd ynddo a beth mae Hannah angen ei wneud yn ddyddiol gadw trefn yn y ty!
- Dydd Sul 3 Awst
- Dydd Sul 11 Awst
- Dydd Sul 18 Awst
- Dydd Sadwrn ( 12pm - 2.30pm yn unig)
*I gyd yn sesiynau galw mewn - nid oes angen bwcio
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Parcio
Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552) Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd