Digwyddiadau

Digwyddiad: Haf o Hwyl - Actorion Preswyl Haf 2022

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
23 Gorffennaf–31 Awst 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Actores yn dweud stori

Diwrnod Leusa 1901

Wil Ffitar

Wil Ffitar

Cronfa Treftadaeth

Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn

Dewch i ymuno an 3 actor preswyl wrth iddynt ddod a'r amgueddfa yn fyw yr haf yma! 

DIWRNOD HANNAH

(Lleoliad: Tŷ’r Peiriannydd)    12pm - 4pm   

Dewch i ddarganfod mwy am y Tŷ Peiriannydd a'r pethau sydd ynddo a beth mae Hannah                              angen ei wneud yn ddyddiol  gadw trefn yn y ty! 

  • 26 & 30 Gorffennaf 
  • 20, 21 & 29 Awst

DIWRNOD LEUSA

(Lleoliad: Tŷ 1901 Tai’r Chwarelwyr)  12pm - 4pm                                                       

Ymunwch â Leusa - gwraig Chwarelwr - sydd yn byw yn Rhif 2 Fron Haul, wedi ei ddodrefnnu i gyfnod 1901 ym Methesda!  Fydd Leusa yn sôn am yr amser caled sydd yn effeithio hi a'i theulu yn ganol Streic Fawr y Penrhyn yn 1901!  

  • 23 &31 Gorffennaf 
  • 6,7 & 27  Awst 

WIL FFITAR 

(Lleoliad: Gweithdai Ffitio)                                                                                                

Fydd Wil y Ffitar yn hel atgofion am ei waith yn y gweithdai peirianneg yma cyn iddynt gau yn 1969 a cael eu hail-agor fel amgueddfa yn 1972!  

  • 24 Gorffennaf 
  • 13, 14 & 28 Awst

 

*I gyd yn sesiynau galw mewn - nid oes angen bwcio

 

Digwyddiadau