Digwyddiad: Llwybr Gaeaf Mawr yr Amgueddfa

Dewch i roi cynnig ar ein llwybr Gaeaf hwyl i'r teulu cyfan.
Chwiliwch am y corachod bach i'ch helpu i greu ffrind eira i addurno brig y goeden Nadolig adref.
Beth ydw i'n ei gael?
- Llwybr lliw A3 gyda gweithgaredd crefft
- Pecyn o greonau
- Gwobr bach Nadoligaidd (ar ôl cwblhau'r llwybr)
Ble ydw i'n cael y llwybr?
Bydd llwybrau ar gael yn siop yr Amgueddfa wrth gyrraedd. Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn
Gwybodaeth Ychwanegol
Iaith - Mae'r llwybrau'n ddwyieithog.
Oedran - Yn addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.
Côst - Mae'r gôst yn cynnwys un llwybr gydag un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.
Mae'r llwybr ar gael ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa Cymru ac mae'r un peth ar bob safle :
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.
Lle bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio'r rhain eto.
Nifer o lefydd gyfyngedig.
Mae'r Helfa ar gael hyd at 6ed Ionawr ond mi fydd y safle ar gau ar ddyddiau ychwanegol dros y gaeaf