Digwyddiad: Addurniadau Nadolig Traddodiadol
Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen

Addurniadau Traddodiadol y Nadolig, Tŷ'r Peiriannydd, Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis
Hoffech chi ddod draw i’r Amgueddfa Lechi Cymru i helpu ni greu addurniadau Nadolig?
Eleni, mae Cadi Iolen, ein curadur, yn awyddus i wahodd helpwyr i greu addurniadau, a chreu awyrgylch Nadoligaidd ar gyfer ymwelwyr y gaeaf hwn!
Byddwn yn creu cadwynau celyn, oren a phapur ac orennau fictoriadd i siwtio cyfnodau 1861, 1901, 1911 a 1969 i’w dangos drwy gydol mis Rhagfyr!
Byddwn yn cynnal sesiynau ar 24ain o Dachwedd 10am - 12pm neu 1pm - 3pm a hoffwn groesawu unigolion neu aelodau grŵp draw atom.
Mae’r gweithgaredd AM DDIM ond dylid trefnu eich lle drwy gysylltu â chloe.ward@museumwales.ac.uk