Arddangosfa: LLECHI: GOLWG GWAHANOL!

Ar Ben y Chwareli gan David Peers

Logo Safle Treftadaeth y Byd - Tirwedd Llechi Gogledd-Orllewin Cymru
Arddangosfa ffotograffiaeth i ysbrydoli golwg wahanol ar dirwedd y chwareli!
Yn 2021 derbyniodd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru statws Treftadaeth Byd.
Cafodd lluniau o harddwch rhyfeddol yr ardal eu gweld ar hyd a lled y byd – delweddau trawiadol o’r chwareli o’r awyr, mynyddoedd o lechi a grëwyd gan chwarelwyr, a harddwch yr hen farics a pheirianwaith.
Mae rhai o’r golygfeydd syfrdanol o’n tirwedd llechi a’i phobl wedi dod yn gyfarwydd iawn - ond ar gyfer y gystadleuaeth ffotograffiaeth hon - ar y cyd rhwng Llechi Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru - gofynnom am luniau sy’n adlewyrchu golwg gwahanol, unigryw neu anarferol ohoni.
Derbyniom dros 200 o luniau i gynrychioli tair thema:
- Aruthrol - yn dehongli pa mor syfrdanol a rhyfeddol yw’r tirwedd llechi
- Arloesol - yn dangos natur arloesol y diwydiant, neu’n dangos sut y gwnaeth dorri tir newydd
- Cymuned – yn adlewyrchu'r bobl a'r llefydd sy'n gwneud y cymunedau llechi yn arbennig
Mae’r arddangosfa hon yn gyfle i chi fwynhau’r ffotograffau a ddewiswyd gan y panel beirniadu.
Am fwy o wybodaeth am Safle Traftadaeth y Byd Gogledd Orllewin Cymru ewch i https://www.llechi.cymru/cy