Digwyddiad: Te Prynhawn Nadoligaidd
Amgueddfa Lechi Cymru

Dewch i fwynhau ein Te Prynhawn Nadoligaidd moethus yn Amgueddfa Lechi Cymru
Cymerwch gam i'r gorffennol ac ymuno yn hwyl yr ŵyl hanesyddol yr Amgueddfa!
Mwynhewch ddetholiad tymhorol o frechdanau cartref, danteithion sawrus a chacennau, gyda phaned o de neu goffi ffres.
Cost y te prynhawn yw £15.00pp. Sicrhewch eich bod yn archebu tocyn ar gyfer pob aelod o'ch grŵp.
Ar gael 1, 8,15, 22 Rhagfyr @2pm
Gwybodaeth Ychwanegol
- Oherwydd y galw, mae angen byrddau yn ôl erbyn diwedd amser eich sesiwn, diolch.
- Mae opsiynau di-glwten a fegan ar gael. Rhowch wybod am unrhyw anghenion dietegol yn y bocs isod.