Digwyddiad:Teithau Camau Nesaf – Gofodau Distaw

Amgueddfa Lechi Cymru

Teithau Camau Nesaf – Gofodau Distaw

Mae rhan helaeth o'n gwrthrychau bellach wedi'u cludo'n ddiogel i ganolfan Gasgliadau arbenning i'w cadw'n saff ac mae'r Amgueddfa yn ddistaw a tawel yn disgwyl am y cam nesaf yn eu hanes.  

Ymunwch â ni am gipolwg arbennig o’r Amgueddfa yn y cyfnod unigryw yma cyn i’r gwaith adfer ac ailddatblygu ddechrau. 

Byddwn yn eich tywys o amgylch y safle ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr hyn fydd yn digwydd i'r mannau arbennig hyn yn y dyfodol yn rhan o'r project ail-ddatblygu cyffrous. 

Mae’r teithiau  AM DDIM ond rhaid trefnu eich lle ymlaen llaw yma: https://fy.amgueddfa.cymru/overview/34527

Mae'r digwyddiad yma yn rhan o broject ail-ddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru.  Ariannwyd y project gan Ariennir prosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru gyda nawdd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU trwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o’r Llechi, Llywodraeth Cymru a a chyllidwyr eraill. 

I ddarganfod mwy am y prosiect ail-ddatblygu ewch i: https://amgueddfa.cymru/llechi/ailddatblygu

Gwybodaeth

22 a 26 Mawrth 2025, 2pm, 3pm & 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Llofft Patrwm Amgueddfa Lechi Cymru 

Gweithdai Amgueddfa Lechi Cymru 

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

18 Mawrth - 3 Tachwedd 2024     
Ar agor yn ddyddiol 10am - 5pm

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

Cyfeiriad

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY

Map a Sut i Gyrraedd Yma

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae ein siop goffi bellach yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. 
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Parcio

Mae digonedd o le parcio i geir a bysiau. Codir tâl am barcio.
Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar faes parcio Maes Parcio Gwledig Padarn ac yn ei weithredu. Mae'r parcio'n costio £4.50. Mae’n bosib talu a cherdyn (www.paybyphone.co.uk/ neu defnyddiwch yr app ffôn / Lleoliad 804552)  Os mai dim ond gydag arian parod y gallwch dalu, byddwch yn ymwybodol na allwn gyflenwi newid ar hyn o bryd.

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau