Digwyddiad:Amser Stori hefo Siân Corn
Dewch i baratoi ar gyfer y Nadolig yn ein diwrnod arbennig, Nadolig yn y Parc!
Ar ôl i chi gamu oddi ar drên arbennig Rheilffordd Llyn Padarn, dewch i ymweld â Siân Corn fel mae hi'n rhannu ei hoff storiâu Nadoligaidd. Yna, cymerwch y cyfle i ysgrifennu llythyr Nadolig eich hun i Siân Corn mynd yn ôl hefo hi i Begwn y Gogledd. Os ydych yn blant da, efallai fydd yno anrheg Nadolig yn disgwyl amdanoch!
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae bob tocyn plentyn yn cynnwys sesiwn storiâu hefo Siân Corn, taith i un plentyn dwy ffordd, gweithdy ysgrifennu llythyr Nadolig, ac anrheg.
- Mae'n rhaid archebu o leiaf un tocyn oedolyn hefo tocyn plentyn. Mae'r tocyn oedolion yn cynnwys taith tren ddwy ffordd.
- Mae'r sesiwn yn para o gwmpas 45 munud, ond os gwelwch yn dda ystyriwch ganiatáu un awr.
- Rhaid archebu tocynnau oflaen llaw.
Mae’r gweithgaredd yma yn rhan o brosiect ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru a gyllidir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ogystal â chymorth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o’r prosiect Llewyrch o'r Llechi, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston ac arianwyr eraill.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd