Digwyddiad:Amser Stori hefo Siân Corn
Dewch i baratoi ar gyfer y Nadolig yn ein diwrnod arbennig, Nadolig yn y Parc!
Ar ôl i chi gamu oddi ar drên arbennig Rheilffordd Llyn Padarn, dewch i ymweld â Siân Corn fel mae hi'n rhannu ei hoff storiâu Nadoligaidd. Yna, cymerwch y cyfle i ysgrifennu llythyr Nadolig eich hun i Siân Corn mynd yn ôl hefo hi i Begwn y Gogledd. Os ydych yn blant da, efallai fydd yno anrheg Nadolig yn disgwyl amdanoch!
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae bob tocyn plentyn yn cynnwys sesiwn storiâu hefo Siân Corn, taith i un plentyn o Lanberis i Gilfach Ddu, gweithdy ysgrifennu llythyr Nadolig, ac anrheg.
- Mae'n rhaid archebu o leiaf un tocyn oedolyn hefo tocyn plentyn. Mae'r tocyn oedolion yn cynnwys taith o Lanberis i Gilfach Ddu.
- Mae'r sesiwn yn para o gwmpas 45 munud, ond os gwelwch yn dda ystyriwch ganiatáu un awr.
- Rhaid archebu tocynnau oflaen llaw.
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 29 Tachwedd 2025 | 12:00 | Gweld Tocynnau |
| 29 Tachwedd 2025 | 13:00 | Gweld Tocynnau |
| 29 Tachwedd 2025 | 14:00 | Gweld Tocynnau |
| 29 Tachwedd 2025 | Sold Out |