Digwyddiad: Haf o Lechen
Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
Mwynhewch Haf o Lechi rhwng 25 Gorffennaf a 31 Awst!
- LLIWIO AR LECHI - perffaith ar gyfer plant a'u hoedolion! Addurnwch ddarn o lechen i fynd adref! (Yn ddyddiol 12pm - 4pm / Côst ychwanegol o £1.50 y lechen)
- Byddwch yn grefftus gyda'r CERT CELF ( Yn ddyddiol 12pm-4pm / AM DDIM)
- Gwnewch batrymau perffaith yn twll tywod y ffowndri ( Yn ddyddiol / Trwy'r dydd / Am ddim)
- Adeiladwch dŵr o lechi sydd yn addurniadol ac yn ymarferol! (Trwy'r dydd / Am ddim)
- Gwisgwch fyny yn eich ffustion gorau o wahanol gyfnodau ffasiwn yn y Tai Chwarelwyr (Yn ddyddiol / trwy'r dydd / Am Ddim)
- Mwynhewch un o'n sgyrsiau safle (Olwynion Dŵr rhyfeddol, Gelltydd Gwych, torrwr Korffman yn cael ei arddangos. (Amseroedd amrywiol)
- Actorion preswyl: Mwynhewch perfformiadau unigryw gan ein actorion preswyl. Cewch ddarganfod mwy am fywyd cartref y cymunedau Chwarelyddol a sut beth oedd diwrnod gweithio Wil y Ffitar pan oedd yn gweithio yng ngweithdai'r Gilfach Ddu cyn iddynt gau yn 1969 ac ail-agor fel amgueddfa yn 1972. (Amseroedd amrywiol) Actorion Preswyl - Haf 2022 (Am Ddim)
- Mwynhewch gemau traddodiadol o flaen y Tai Chwarelwyr! (Achlysurol / Am Ddim)