Digwyddiadau

ArddangosfaDiwydiant Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf

Wedi'i Orffen
22 Ionawr10 Gorffennaf 2018
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Mentrodd degau o filoedd o Gymry i frwydro yn Ewrop rhwng 1914 a 1918. Ond yn ôl yng Nghymru fach, roedd miloedd hefyd yn gweithio yn y diwydiannau hanfodol – yn eu plith y menywod a oedd yn rhan o’r gweithlu am y tro cyntaf. Bydd yr arddangosfa hon yn edrych ar eu cyfraniad, y broses gynhyrchu, yr effaith ar ymdrech y rhyfel, ac effaith y rhyfel ar ddiwydiant Cymru.

Mae ein rhaglen goffáu yn rhan allweddol o raglen Gymru-gyfan Llywodraeth Cymru i nodi'r canmlwyddiant, o'r enw Cymru'n Cofio 1914-1918.

Digwyddiadau