Digwyddiadau

Digwyddiad: Arddangos Inclein cludo llechi Vivian

Amgueddfa Lechi Cymru
Wedi'i Orffen
19 Gorffennaf–30 Awst 2023, 2pm - 3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Inclein Vivian ALC

Dewch i weld yr inclein cludo llechi ar waith! 

 

Ydych chi erioed wedi meddwl sut oedd y chwarelwyr yn cael y llechi i lawr y mynydd at y trenau? Yr ateb yw – gyda inclenau! 

Llwythid y llechi ar wagenni a fyddai’n trafeilio i lawr yr inclein ar gledrau at y gwaelod, lle caent eu gwagio. Byddai gwrthbwys wedyn yn tynnu’r wagenni gweigion yn ôl I fyny’r inclein a byddai’r broses yn cychwyn eto! 

Adeiladwyd Inclein Vivian rhwng 1873 - 1877. Cafodd y darn V2 ei hadfer yn 1998, diolch i grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Dyma'r unig inclein cludo llechi gweithiol ym Mhrydain heddiw! 

 

Lleolir yr inclein ym Mharc Gwledig Padarn. I gyraedd ewch heibio gorsaf Rheilffordd y Llyn a dilyn y llwybyr.

 

Dydd Mercher 19, 26 Gorffennaf     2, 9, 16, 23, 30 Awst   

 

2pm - 3pm   (os yw'r tywydd yn caniatau - plis checiwch cyn trafeilio)

Digwyddiadau