Chwarelwyr wrth eu gwaith — Sgyrsiau a chrefftwyr yn dangos eu doniau

Chwarelwyr wrth eu gwaith

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn rhoi golwg go iawn i chi ar fywyd y chwarel. Bob dydd, mae amrywiaeth o deithiau, sgyrsiau a chrefftwyr ar gael, sy’n dangos doniau’r chwarelwr.

Mae'r crefftwyr yn hollti llechi gan arddangos sgiliau a chrefftwaith cenedlaethau o chwarelwyr. Rhyfeddwch ar y grefft drawiadol o hollti a naddu llechi, wrth i un o'n crefftwyr profiadol hollti llechen o flaen eich llygaid.

Mae ein crefftwyr hefyd yn creu gweithiau celf o'r llechi, gan gynnwys cylchoedd, calonnau, fframiau llun a ffaniau cywrain o lechi.

Cewch gyfarfod UNA, ein hinjan Hunslet, neu arsylwi ar ein gof yn creu dreigiau o haearn gyr a thrafod ei grefft.

Chwarelwyr wrth eu gwaith

Mae dros 2,000 o batrymau pren yng nghasgliad yr Amgueddfa, i’w defnyddio i greu unrhyw wrthrych metal oedd ei angen ar weithdai’r chwarel – cogiau, rhannau injans stêm, hyd yn oed cloch y cloc uwch ddrws y gweithdai.

Mae'r holl batrymau'n cael eu glanhau a'u catalogio fel rhan o brosiect hirdymor, i sicrhau ein bod yn gofalu amdanynt ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Gallwch ddysgu mwy oddi wrth ein Curadur mewn sesiynau arbennig tu ôl i'r llenni yn y llofft batrwm.

Chwarelwyr wrth eu gwaith

Am fwy o fanylion am ddyddiadau ac i archebu lle, ewch i'n tudalen

Ddigwyddiadau, neu cysylltwch â'r Amgueddfa.