Ailagor yr Amgueddfa
Cwestiynau Cyffredin
Pam mae’n rhaid archebu ymlaen llaw?
O ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol, rhaid cyfyngu nifer yr ymwelwyr ar y safle ar yr un pryd. I reoli hyn ac osgoi siomi ymwelwyr rydym wedi cyflwyno sytem archebu ar-lein drwy Eventbrite. Os nad ydych chi am archebu ar-lein gallwch wneud hynny dros y ffôn. Bydd mynediad i bob amgueddfa yn parhau am ddim.
Ydw i’n gallu dod â phicnic?
Oes mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Ydw i’n gallu dod a’r ci?
Mae croeso i gŵn ond rhaid eu cadw ar dennyn ar bob adeg.
Bwyd a Diod
Bydd caffi’r Amgueddfa ar agor yn ystod eich ymweliad ac yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer a byrbrydau i fynd.
Dewch i brofi ein danteithion tymhorol blasus fel:
- Brechdan dwrci efo stwffin a llugaeron £3.50
- + sglodion am £1.50
- Potyn o ‘foch mewn blancedi’£4.95 (yn cynnwys 10 selsig bach a saws llugaeron)
MINS PEI AM DDIM o wario dros £5.00
Alla i ymweld â siop yr Amgueddfa?
Bydd siop yr Amgueddfa ar agor yn arferol
Beth os alla i ddim am archebu ar-lein?
Rhaid archebu tocyn i ymweld â’r amgueddfa. Os na allwch chi archebu ar-lein, gallwch chi archebu dros y ffôn ar 030 0111 2333 (oriau swyddfa yn unig).
Beth ydych chi’n ei wneud i leihau llediad COVID-19?
Mae pob amgueddfa wedi cynnal asesiad risg gan ystyried y mesurau cadw pellter cymdeithasol sy’n parhau i leihau llediad COVID-19. Mae hyn yn cynnwys cyfyngu nifer yr ymwelwyr ar y safle ar yr un pryd, defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE), mesurau glanweithdra ychwanegol a chynyddu sawl gwaith y caiff toiledau eu glanhau bob dydd. Rydym wedi gosod rheolau cadw pellter cymdeithasol newydd yn ein hamgueddfeydd ac yn gweithio i osod arwyddion clir i atgyfnerthu’r rheoliadau glanweithdra a chadw pellter.
Mae llawer o lefydd ar agor yn barod – pam ydych chi’n cymryd gymaint o amser?
Mae ein hamgueddfeydd wedi bod ar gau am sawl mis, gyda mynediad i staff diogelwch yn unig, felly mae llawer o waith paratoi i sicrhau fod pob adeilad yn ddiogel i ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys asesu cyflenwad dŵr pob safle, gosod mesurau diogelwch megis sgriniau perspex ac arwyddion, cynhyrchu asesiadau risg ar gyfer pob safle a threfnu system unffordd er mwyn i ni allu glynu at ganllawiau diogelwch COVID-19. Bydd staff hefyd angen hyfforddiant ar y mesurau glanweithdra a diogelwch newydd. Mae gwaith tynnu hen arddangosfeydd a gosod rhai newydd i’w wneud hefyd, gwaith oedd yn methu cael ei gwblhau tra’n bod ni ar gau. Rydyn ni am i’r amgueddfeydd fod ar eu gorau ac mor ddiogel â phosib, er y bydd profiad yr ymwelydd yn wahanol, ac mae angen amser i roi’r cyfan yn ei le cyn croesawu ymwelwyr yn ôl.
Nifer fechan o achosion COVID-19 a gafwyd yma – rydych chi’n denu miloedd o ymwelwyr o’r tu allan i Gymru allai fod yn cludo’r feirws.
Mae cymunedau lleol ein hamgueddfeydd yn bwysig iawn i ni, ac rydym am barhau i feithrin perthynas bositif â nhw am flynyddoedd lawer. Byddwn yn cyfyngu nifer yr ymwelwyr ar bob safle ar yr un pryd ac yn cyflwyno system archebu ymlaen llaw drylwyr.
Gyda mesurau i leihau llediad COVID-19 yn weithredol ym mhob safle, megis trefn lanhau estynedig, cadw pellter cymdeithasol, gorsafoedd glanhau dwylo, nid ydym yn rhagwyeld y bydd yr ymwelwyr yn amharu ar y gymuned leol.
Oes angen i mi dalu i barcio?
Oes. Cyngor Gwynedd sy'n rheoli'r maes parcio. Mae'n costio £4 a gallwch dalu gyda arian parod neu gerdyn. Linc i Parkopedia
Pam allai ddim galw mewn i’r Amgueddfa fel o’r blaen?
O ganlyniad i fesurau diogelwch cadw pellter cymdeithasol, rhaid cyfyngu nifer yr ymwelwyr ar y safle ar yr un pryd. I reoli hyn ac osgoi siomi ymwelwyr rydym wedi cyflwyno sytem archebu ar-lein. Dyma’r ffordd fwyaf diogel o reoli niferoedd ymwelwyr.
Pam ydych chi'n gofyn i mi wisgo gorchudd wyneb?
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, rhaid i bawb wisgo gorchudd wyneb yn ein Hamgueddfeydd. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sydd ddim yn gwisgo gorchudd wyneb heb fod ganddynt reswm da, er enghraifft am resymau iechyd a lles.
Profiad yr Ymwelydd
Bydd profiad yr ymwelydd ychydig yn wahanol.
Gallwch chi fwynhau’r canlynol yn ôl yr arfer:
- Hollti a naddu llechi a’r gof wrth ei waith (amseroedd dyddiol amrywiol)
- Arddangosfa ‘Lliwiau Dinorwig’ gan Mikey Jones
- Yr Iard a’r peiriannau, Y Caban, Y Ffowndri, Yr Efail
- Y Lle Chwarae a’r lein Zip
Bydd yn rhaid i sawl ardal aros ar gau er mwyn cadw at reoliadau cadw pellter cymdeithasol presennol.
Arddangosiadau sydd ar gau am y tro:
- Yr Olwyn Ddŵr
- Tŷ’r Prif Beiriannydd
- Tai’r Chwarelwyr
*Gall y wybodaeth uchod newid. Bydd gwybodaeth ar gael wrth gyrraedd.
Pryd alla i drefnu cynhadledd?
Ein blaenoriaeth pennaf yw diogelwch staff ac ymwelwyr, ac rydym wedi cynnal asesiadau risg ym mhob Amgueddfa i sicrhau eu bod yn medru ailagor gan gadw at reoliadau cadw pellter cymdeithasol a glanweithdra. Canllaw y llywodraeth ar hyn o bryd yw i beidio cynnal digwyddiadau mawr a chynadleddau, ond mae hyn yn cael ei adolygu’n gyson. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth diweddaraf ar ein gwefan os yw’r cyngor yn newid neu gallwch gysylltu a llechi@amgueddfacymru.ac.uk.
Pryd fyddwch chi’n ailagor yn llawn?
Rydym yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru ac yn parhau â’r mesurau yma hyd nes ein cynghorir yn wahanol, er y gallai hyn barhau am fisoedd.
Pryd fyddwch chi’n cynnal digwyddiadau eto?
Rydyn ni wedi paratoi rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein dros y misoedd nesaf. Byddwn yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau ar-lein tan ein bod yn hyderus y gallwn gynnal digwyddiadau go iawn yn ddiogel, gan gadw at reoliadau cadw pellter cymdeithasol a glanweithdra.
Ydych chi’n defnyddio PPE ddylai fynd i’r GIG?
Na. Rydyn ni wedi caffael cyflenwad ar wahân i ofynion y GIG ac ni fydd ein defnydd o ddeunydd PPE yn amharu ar y GIG.
Yw’r toiledau, Llefydd Newid a chyfleusterau newid babi ar agor?
Mae ein toiledau a’r cyfleusterau newid babi yn parhau ar agor i bawb sydd am eu defnyddio. Rydym wedi rhaglennu trefn lanhau estynedig ar gyfer y gofodau yma, a byddwn yn cyfyngu’r niferoedd all defnyddio’r cyfleusterau ar yr un pryd.