Canllawiau Mynediad – Amgueddfa Lechi Cymru

Cyfleusterau newid babi

  • Mae cyfleusterau newid babanod i'w cael yn nhoiledau'r merched a'r dynion yn adeilad y caffi. Gofynnwch am gymorth i agor y drysau os bydd angen.

Ymwelwyr gydag anghenion symudedd a defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

  • Mae mannau parcio arbennig ar gyfer pobl anabl i'w cael ym Mharc Gwledig Padarn. Maes parcio talu ac arddangos yw hwn ac felly dylid dangos bathodyn glas. Mae bysus yn cael parcio am ddim.

  • Ceir llwybrau gwastad wedi'u palmantu o'r maes parcio i'r amgueddfa. Mae'r rhain yn addas ar gyfer ein holl ymwelwyr.

  • Mae pobl sydd mewn cadeiriau olwyn neu sydd â choetsis babanod a phlant bach yn mynd i mewn i'r amgueddfa trwy'r siop.

  • Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio os gofynnwch amdani yn y siop. Ni ellir trefnu ymlaen llaw i ddefnyddio'r gadair olwyn hon a'r cyntaf i'r felin gaiff falu ond byddwn yn ystyried ceisiadau a gawn ymlaen llaw.

  • Ceir seddau yma a thraw yn yr amgueddfa. Gofynnwch i aelod o'r staff os bydd arnoch angen sedd yn rhywle arall.

  • Gall pobl mewn cadair olwyn fynd i'r siop ac i'r caffi.

  • Mae toiledau ar gyfer yr anabl yn adeilad y caffi.

Gall pobl mewn cadeiriau olwyn fynd ar eu pen eu hunain i'r rhan fwyaf o'r amgueddfa, ar hyd y llwybrau llechi a graean. Gellir mynd mewn lifft i weld yr olwyn ddŵr yng nghefn yr amgueddfa.

Fodd bynnag, oherwydd natur adeiladau'r amgueddfa efallai y bydd angen cymorth mewn rhai mannau:—

  • Mae cledrau rheilffordd yn rhedeg ar draws y safle a gall y rhain beri anawsterau os bydd ymwelwyr yn gadael y llwybrau swyddogol. Gofynnwch am gymorth.

  • Gwaetha'r modd, mae'n rhaid dringo grisiau serth i gyrraedd y llofft batrwm ar hyn o bryd ac felly ni ellir mynd yno mewn cadair olwyn.

  • Mae'r llwybr yn mynd braidd yn gul yn yr efail ac ni ellir mynd ar hyd y llwybr arferol mewn cadair olwyn. Gofynnwch i aelod o'r staff am gymorth i agor y bariau fel y gallwch fynd heibio.

  • Mae'r llwybr at y tai ar ychydig o lethr ac efallai y bydd angen cymorth aelod o'r staff ar bobl sy'n dod mewn cadair olwyn ar eu pen eu hunain. Mae natur y tai hyn a'r ffaith eu bod mor debyg ag y bo modd i'r gwreiddiol yn golygu ei bod yn anodd mynd iddynt yn y rhan fwyaf o gadeiriau olwyn. Gofynnwch i aelod o'r staff os cewch drafferth.

Ymwelwyr dall neu rhannol ddall

  • Un o bleserau mawr ymweld â safle diwydiannol fel Amgueddfa Lechi Cymru yw profi sŵn ac arogleuon yr eitemau a'r arddangosiadau. Ychydig o bethau sydd mewn casys gwydr yma. Mae staff yr Amgueddfa a'r crefftwyr yn barod iawn i ganiatáu i ymwelwyr gyffwrdd â'r eitemau a gafael ynddynt ac i roi esboniad llawn o'u pwrpas.

  • Gellir cysylltu â'r Swyddog Addysg i drefnu sesiynau i deimlo eitemau'r amgueddfa.

Ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw

  • Gellir gweld cyflwyniadau fideo yma a thraw yn yr amgueddfa.

  • Mae dolenni anwytho ar gael a gellir gwisgo penset yn y theatr ffilm.

Anghenion dysgu pellach

  • Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa cyn 11am bob dydd.

Cŵn

  • Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn croesawu cŵn cymorth wedi'u hyfforddi, ond dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw anifeiliaid eraill yn y theatr, yr orielau, y tai hanesyddol, y gweithdy hollti llechi na'r caffi.

  • Mae croeso i gŵn ym mhob ardal arall, ond rhaid eu cadw ar dennyn drwy'r amser.

  • Bydd powlenni dŵr wrth fynedfa'r Amgueddfa, ac yn y caffis.

  • Bydd 'rhaw faw' ar gael wrth gyrraedd yr Amgueddfa, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadw'r Amgueddfa yn lân a diogel.