Teuluoedd

Darperir rhaglen o arddangosiadau a sgyrsiau yn arbennig ar gyfer teuluoedd drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys arddangosiadau hollti llechi gan ein chwarelwyr cyfeillgar a sgyrsiau am injan y chwarel UNA, lle gallwch chi weld sut yn union mae'r injan yn gweithio.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys pwll tywod a adeiladwyd yn arbennig yn y ffwndri lle gallwch chi roi cynnig ar greu patrymau perffaith yn y tywod yn union fel byddai'r mowldwyr yn ei wneud.

Yn ystod gwyliau ysgol ceir rhaglen fwy cynhwysfawr o weithgareddau i'r teulu yn cynnwys addurno llechi, gwisgo i fyny yn nhai'r chwarelwyr a dilyn teithiau tymhorol yn ystod y Pasg a Chalan Gaeaf.

Gall teuluoedd hefyd gael hwyl yn cwblhau pasport plentyn, llyfryn Tai'r Chwarelwyr neu lyfryn y Cert Celf. Mae ardal chwarae i blant ifanc yn cynnwys zip wire!

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau newid babi ar gael ym mhob toiled gyda chewynnau ar gael ar gais mewn argyfwng.

Partïon Plant

Os ydych chi'n ymweld â Pharc wledig Padarn neu'r Amgueddfa fel rhan o barti pen-blwydd gallwn ni drefnu'r arlwyo, gyda detholiad o brydau poeth neu oer, pwdinau a diodydd.

Siop yr Amgueddfa

Darperir detholiad pwrpasol o deganau plant ac ystod eang o lyfrau, printiau a chardiau post.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser