Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion – Gweithio dros Ddementia

Project tair blynedd yw Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi'i arwain ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer’s Cymru, gyda nawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dechreuodd y project ym mis Ebrill 2022 gan adeiladu ar ein rhaglen bresennol o ddigwyddiadau dementia-gyfeillgar, gyda’r nod o weithio gyda pobl sydd yn byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, cydweithwyr y sector treftadaeth a chymunedau a sefyliadau oddi ledled Cymru i ddatblygu a darparu ffyrdd ymarferol i ymgysylltu â phobl sydd wedi’u heffeithio gan dementia ac i wella’u safon byw drwy wella mynediad i safleoedd ac adnoddau’r Amgueddfa.

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn:

  • creu Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth i lywio a siapio gwaith y project
  • datblygu a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i staff yn y sector treftadaeth
  • datblygu a darparu pecyn cefnogol ar gyfer gofalwyr di-dâl/staff y sector gofal i ddefnyddio adnoddau amgueddfa gyda’r bobl yn eu gofal
  • creu rhaglen o weithgareddau i ddarparu mynediad i'r amgueddfa, ei hadnoddau a'i chasgliadau i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia;

Gan ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd mewn archwiliadau safle, ac mewn sgyrsiau gyda phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, gweithwyr sector treftadaeth, a sefydliadau cynrychioliadol, cafodd adroddiad gwaelodlin ei greu i ddangos lle’r oedden ni arni ar ddechrau’r project o ran darparu amgylchfyd cefnogol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Mae dolen i’r ‘Crynodeb Weithredol’ i’w gweld isod.

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion - Adroddiad Sylfaenol: Crynodeb Gweithredol [PDF]

 

“Yma yn y Gymdeithas Alzheimer's, rydyn ni'n gweithio tuag at fyd lle nad yw dementia yn dinistrio bywydau. Rydyn ni'n gwneud hyn drwy helpu'r bobl sy'n byw gyda dementia heddiw, a chynnig gobaith ar gyfer y dyfodol. I lawer o bobl, mae amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth yn hollbwysig ac yn rhan gyson o'n bywydau. Gall hyn amrywio o ymweld â safleoedd hanesyddol gyda'n rhieni fel plentyn neu ar daith ysgol, i fynd i atyniadau cenedlaethol ar wyliau. Mae safleoedd treftadaeth yn dod yn bwysicach i ni wrth i ni heneiddio, fel lle i ymlacio, adfer ac ymgysylltu drwy brofiad amlsynhwyraidd o'r amgylchedd o'n cwmpas. Rydyn ni wrth ein boddau i fod yn cydweithio ag Amgueddfa Cymru ar broject Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu ffyrdd ymarferol o ymgysylltu â phobl sy'n byw gyda dementia a helpu i wella iechyd a lles drwy fynediad i safleoedd ac adnoddau'r Amgueddfa. Rydyn ni'n falch iawn o'r cynnydd a wnaed hyd yma gan dîm Amgueddfa Cymru, ac yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach wrth i ni archwilio ffyrdd newydd a chyffrous o ymgysylltu â chymunedau, gan gynyddu effaith y project ymhellach.”

Richie Maiorano, Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia – Arweinydd Cymru, Cymdeithas Alzheimer’s Cymru

Logo Cymdeithas Alzheimer’s Cymru

Pwy ydym ni

Gareth Rees

Gareth Rees – Arweinydd Llais Dementia

Gareth Rees yw Arweinydd Llais Dementia Amgueddfa Cymru, sy'n gyfrifol am arwain y project.

Mae gan Gareth brofiad o weithio gyda theulu ac anwyliaid sy'n byw gyda dementia ac yn deall yn iawn pa mor bwysig yw creu cysylltiadau i atgofion a theimladau'r gorffennol - i'r person sy'n byw gyda'r cyflwr ac i ofalwyr – a'r effaith positif posibl ar iechyd a lles yr unigolyn. Mae gan Gareth gefndir yn y sector treftadaeth ac o fod yn eiriol dros gofio bod yn oed-gyfeillgar wrth ddatblygu a chynllunio darpariaeth. Mae Gareth hefyd yn eiddgar i wneud yn siŵr fod y project yn adlewyrchu lleisiau'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia, ac y gallai helpu i ddod â'n hamgueddfeydd a'n casgliadau yn agosach i'r gymuned, er lles pawb. Yn ei amser hamdden, mae Gareth yn mwynhau rhedeg, darllen, cerdded ac adeiladu modelau. Mae gan Gareth brofiad o weithio gyda theulu ac anwyliaid sy'n byw gyda dementia ac yn deall yn iawn pa mor bwysig yw creu cysylltiadau i atgofion a theimladau'r gorffennol - i'r person sy'n byw gyda'r cyflwr ac i ofalwyr – a'r effaith positif posibl ar iechyd a lles yr unigolyn. Mae gan Gareth gefndir yn y sector treftadaeth ac o fod yn eiriol dros gofio bod yn oed-gyfeillgar wrth ddatblygu a chynllunio darpariaeth. Mae Gareth hefyd yn eiddgar i wneud yn siŵr fod y project yn adlewyrchu lleisiau'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia, ac y gallai helpu i ddod â'n hamgueddfeydd a'n casgliadau yn agosach i'r gymuned, er lles pawb. Yn ei amser hamdden, mae Gareth yn mwynhau rhedeg, darllen, cerdded ac adeiladu modelau.

Gallwch gysylltu â Gareth drwy e-bostio gareth.rees@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3418.

 

Sharon Ford

Sharon Ford – Rheolwr Rhaglen

Sharon Ford yw Rheolwr Rhaglen Iechyd a Lles Amgueddfa Cymru.

Mae ganddi brofiad personol o ddementia gyda theulu agos, sy'n golygu ei bod hi'n frwd dros wneud amgueddfeydd yn fwy hygyrch, ac i gysylltu'n well â phobl wedi'u heffeithio gan ddementia. Mae'n hynod falch o'i rôl yn datblygu taith danddaear cyfeillgar i ddementia yn Big Pit, a gynhyrchwyd ar y cyd â grŵp o bobl yn byw gyda dementia sydd wedi dod yn ffrindiau mawr ers hynny. Y tu allan i Amgueddfa Cymru, mae Sharon yn gwirfoddoli gydag adeilad treftadaeth lleol i sicrhau ei fod yn parhau ar agor fel canolfan gelfyddydau, diwylliant a hwyl i'r gymuned. Mae hefyd yn mwynhau cerdded, rhedeg a choginio i deulu a ffrindiau.

Gallwch chi gysylltu â Sharon drwy e-bostio sharon.ford@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3681.

 

Fi Fenton

Fi Fenton – Swyddog Gweinyddol

Fi yw'r Swyddog Gweinyddol, sy'n gweithio ar y project ddau ddiwrnod yr wythnos. Mae ganddi gefndir yn y maes iechyd meddwl, a gweinyddu yn y sector elusennol, ac mae wedi gweithio yn Amgueddfa Cymru am bum mlynedd yn codi arian. Fel rhywun gyda phrofiad o ofalu am aelod o'r teulu sy'n byw gyda dementia, mae Fi yn frwd dros weithio gyda phobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a'u mwynhau. Yn ei hamser hamdden mae Fi yn mwynhau cwiltio, nofio yn y môr a dysgu Cymraeg.

Gallwch chi gysylltu â Fi drwy e-bostio fi.fenton@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3681, neu cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio MIMs@amgueddfacymru.ac.uk.

Digwyddiadau a gweithgareddau

Digwydiadau cyfredol

Teithiau Tanddaearol Cyfeillgar i Bobl â Dementia

Am fwy o wybodaeth ac i fwcio lle, cliciwch yma: Teithiau Tanddaearol Cyfeillgar i Bobl â Dementia

Digwyddiadau blaenorol

Wythnos Gweithredu ar Ddementia 2023

Mae Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn ymgyrch flynyddol Cymdeithas Alzheimer’s i godi ymwybyddiaeth. Wrth i ni geisio canfod ffordd o wella safon byw pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, rydyn ni hefyd am godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr ei hun. Gyda hyn, wnaeth Amgueddfa Cymru dal gweithgareddau gydag unogolion, canolfannau dyddiol, grwpiau cymunedol, preswylwyr cartrefi gofal a sefydliadau trwy gydol Wythnos Gweithredu ar Ddementia 2023.

Sesiwn flasu gyda’r Clwb Diwylliant

Sesiwn blasu Clwb Diwylliant

Ein Hymgynghoriadau: Rhagfyr 2022 i Mawrth 2023

Grŵp o bobl yn sefyll y tu allan i res o fythynnod wedi'u hail-godi

Ein hymgynghoriad yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ym Mawrth 2023

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi bod yn brysur yn ymgynghori â’r gymuned dementia ledled Cymru, yn gofyn i bobl rannu'u profiadau a’u barn ar sut i wella rhaglen waith fwy cefnogol i bobl â dementia yn ein hamgueddfeydd.

Rhwng Rhagfyr 2022 a Mawrth 2023 dyma ni'n gwahodd pobl sy'n byw â dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, cydweithwyr o'r sector treftadaeth a sefydliadau cynrychioliadol i ymuno â'n Hymgynghoriad. Yn y cyfarfodydd hyn, rhannodd nifer eu barn am rai o'r rhwystrau i bobl sy'n byw gyda dementia i ymwneud ag amgueddfeydd, a'r gofal, yr hyfforddiant a'r gefnogaeth angenrheidiol i wella ar hyn. Dyma ni hefyd yn gwahodd sylwadau ar bwy ddylai ymuno â'n Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth – grŵp i lywio gwaith y project dros y ddwy flynedd nesaf. Yn ogystal â'r cyfarfodydd, dyma ni hefyd yn ymuno â grwpiau cymunedol, ymweld â lleoliadau gofal, a mynychu digwyddiadau i gasglu barn, syniadau, a phrofiadau bywyd cymaint o bobl â phosib.

Mae bron i 240 o bobl wedi ymuno â ni a chyfrannu eu syniadau. Rydyn ni am ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiadau. Bydd eich cyfraniadau gwerthfawr yn llywio'r project wrth iddo ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf, yn enwedig wrth i ni sefydlu'r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth, datblygu a lansio pecynnau hyfforddiant a chefnogaeth, a dechrau cynllunio rhaglen weithgareddau.

Byddwn ni'n cynhyrchu adroddiad yn crynhoi barn ac awgrymiadau'r cyfnod ymgynghori cyn bo hir. Yn y cyfamser, i glywed am brofiadau rhai o'r bobl wnaeth gyfrannu at yr ymgynghoriad, darllenwch ein blog.

DIOLCH O GALON i bawb a gymerodd ran!

Grwpiau pontio cenedlaethau

Mae Grŵp Pontio'r Cenedlaethau Blaenafon yn grŵp dementia-gyfeillgar sy'n cyfarfod unwaith y mis yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Mae'r aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau lleol, fel y cartref gofal, pobl ifanc o ganolfan Hwb Blaenafon a thrigolion hŷn yr ardal. Yn 2020 dyfarnwyd gwobr Un Llais Cymru i'r gwaith pontio cenedlaethau am fenter ymgysylltu cymdeithasol orau'r flwyddyn, diolch i'r bartneriaeth gyda Chyngor tref Blaenafon.

Grŵp Cerdded Dementia Cynnar

Y Prosiect IDEAL

Cynhyrchwyd y fideos hyn, sy'n dangos buddion posib ymwneud â lleoliadau a chasgliadau treftadaeth a diwylliant, fel rhan o'r 'Pecyn Byw gyda Dementia', adnodd i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr a'i gofalwyr, a grëwyd gan raglen IDEAL Prifysgol Caerwysg. Mae wedi'i seilio ar ymchwil a phrofiad bywyd, ac wedi'i gynhyrchu i gynnig gobaith, ysbrydoliaeth a syniadau ar sut i fyw bywyd i'r eithaf.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi unrhyw syniadau am sut i wneud ein hamgueddfeydd a’n hadnoddau yn fwy hygyrch, neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y project, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at MIMs@amgueddfacymru.ac.uk.

Adnoddau

Dysgu rhagor am adnoddau Cysur Mewn Casglu.

Logo o blodyn glas a melyn, gyda'r geiriau Yn gweithio i fod yn Dementia Gyfeillgar i'r chwith.